<p>Cyfleoedd Profiad Gwaith</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:33, 14 Mehefin 2017

Diolch. Mae hwn yn fater godais i efo’r Prif Weinidog mewn cwestiwn atodol ddoe. Mae sawl cyngor, fel rydych chi’n gwybod, wedi cymryd y penderfyniad i ganslo cyfleon profiad gwaith i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12, yn cynnwys Ynys Môn. Ac rwyf i eto yn datgan diddordeb fel tad i ddau o blant—un ym mlwyddyn 10 ac un ym mlwyddyn 12. Mae rhieni a disgyblion wedi datgan siom fawr efo hyn, yn enwedig o ystyried y gwaith sydd wedi mynd i mewn i gael lle efo cyflogwyr a’r gystadleuaeth frwd am lefydd mewn rhai achosion.

Nawr, mi oedd asesiadau o addasrwydd cyflogwyr i gynnig profiad gwaith yn arfer cael ei wneud gan Gyrfa Cymru. Rydych chi wedi cadarnhau mewn llythyr ataf fi bod hyn wedi ei dynnu o gylch gorchwyl Gyrfa Cymru yn sgil tynhau ar gyllid. A ydych chi’n derbyn, felly, bod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng penderfyniadau’r Llywodraeth ddiwethaf ar dorri cyllid a’r ffaith bod profiad gwaith yn cael ei ganslo rŵan?

Ond mae yna ddryswch yn fan hyn hefyd. Yn eich llythyr ataf fi, mi rydych chi’n dweud nad oes unrhyw reoliadau iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion neu awdurdodau lleol gynnal asesiadau o weithleoedd ar gyfer lleoliadau profiad gwaith. Ond mae Cyngor Sir Ynys Môn, wedyn, yn fy nghyfeirio i at ddogfennaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sy’n nodi bod angen i ysgolion fod yn sicr bod cyflogwyr wedi gwneud y gwiriadau cywir. Pwy sy’n dweud y gwir—chi ynteu y gweithgor iechyd a diogelwch? Ac, os mai chi sy’n dweud y gwir, pa gefnogaeth rydych chi wedi ei chynnig i awdurdodau lleol i roi sicrwydd iddyn nhw bod modd parhau â threfniadau profiad gwaith hollbwysig?