1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion? OAQ(5)0131(EDU)[W]
Diolch yn fawr, Rhun. Gall lleoliadau profiad gwaith strwythuredig, wedi’u cynllunio’n dda roi cipolwg gwerthfawr i bobl ifanc ar fyd gwaith. Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu profiadau sy’n canolbwyntio ar waith i ddisgyblion fel rhan o’r gwaith o gyflawni’r fframwaith cwricwlwm gyrfaoedd a’r byd gwaith.
Diolch. Mae hwn yn fater godais i efo’r Prif Weinidog mewn cwestiwn atodol ddoe. Mae sawl cyngor, fel rydych chi’n gwybod, wedi cymryd y penderfyniad i ganslo cyfleon profiad gwaith i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12, yn cynnwys Ynys Môn. Ac rwyf i eto yn datgan diddordeb fel tad i ddau o blant—un ym mlwyddyn 10 ac un ym mlwyddyn 12. Mae rhieni a disgyblion wedi datgan siom fawr efo hyn, yn enwedig o ystyried y gwaith sydd wedi mynd i mewn i gael lle efo cyflogwyr a’r gystadleuaeth frwd am lefydd mewn rhai achosion.
Nawr, mi oedd asesiadau o addasrwydd cyflogwyr i gynnig profiad gwaith yn arfer cael ei wneud gan Gyrfa Cymru. Rydych chi wedi cadarnhau mewn llythyr ataf fi bod hyn wedi ei dynnu o gylch gorchwyl Gyrfa Cymru yn sgil tynhau ar gyllid. A ydych chi’n derbyn, felly, bod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng penderfyniadau’r Llywodraeth ddiwethaf ar dorri cyllid a’r ffaith bod profiad gwaith yn cael ei ganslo rŵan?
Ond mae yna ddryswch yn fan hyn hefyd. Yn eich llythyr ataf fi, mi rydych chi’n dweud nad oes unrhyw reoliadau iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion neu awdurdodau lleol gynnal asesiadau o weithleoedd ar gyfer lleoliadau profiad gwaith. Ond mae Cyngor Sir Ynys Môn, wedyn, yn fy nghyfeirio i at ddogfennaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sy’n nodi bod angen i ysgolion fod yn sicr bod cyflogwyr wedi gwneud y gwiriadau cywir. Pwy sy’n dweud y gwir—chi ynteu y gweithgor iechyd a diogelwch? Ac, os mai chi sy’n dweud y gwir, pa gefnogaeth rydych chi wedi ei chynnig i awdurdodau lleol i roi sicrwydd iddyn nhw bod modd parhau â threfniadau profiad gwaith hollbwysig?
Diolch, Rhun. Yn gyntaf oll, rwy’n croesawu’r ffaith fod y ddau ohonom yn cydnabod bod gan leoliadau gwaith a phrofiad gwaith rôl werthfawr i’w chwarae. Rwy’n gobeithio y byddwch yn falch o nodi fy mod wedi clustnodi rhai adnoddau, tua £2.4 miliwn dros y pedair blynedd nesaf, i gefnogi gwaith cryfach rhwng ysgolion a chyflogwyr, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ynglŷn â sut y caiff ei wario. Deallaf fod ysgolion wedi wynebu heriau yn sgil dileu’r gronfa ddata profiad gwaith a gwirio iechyd a diogelwch safleoedd cyflogwyr, a arferai gael eu gwneud gan Gyrfa Cymru. Ond mae’n destun gofid i mi fod Ynys Môn a Gwynedd wedi penderfynu rhoi terfyn ar hyn yn gyfan gwbl, ac mae hynny’n dra gwahanol i waith ardderchog a welwyd mewn awdurdodau lleol eraill ac mewn ysgolion eraill i gynnal y ddarpariaeth hon. Ac rwy’n datgan buddiant fel mam i ddisgybl blwyddyn 10 fy hun, a bydd fy merch a’i chohort yn mynd ar leoliadau gwaith sydd wedi’u trefnu’n ofalus gan yr ysgol, yn nes ymlaen ym mis Gorffennaf.
Byddwn yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir gan gyngor Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, sydd wedi ymateb i’r her ac wedi gwneud gwaith aruthrol yn creu cronfa ddata ar gyfer lleoliadau gwaith, a fydd yn galluogi plant yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro a thu hwnt i fanteisio ar y cyfle hwn. Yr hyn sy’n rhwystredig i mi, mewn cenedl mor fach â’n hun ni, yw na ellir lledaenu gwaith da sy’n cael ei wneud mewn rhai awdurdodau lleol, fel Sir Gaerfyrddin, yn haws i rannau eraill o Gymru. A byddaf yn gofyn i’r consortia rhanbarthol ddyblu eu hymdrechion i sicrhau, lle mae ysgolion awdurdodau lleol unigol wedi gallu goresgyn yr heriau hyn a gweithredu system sy’n galluogi plant i gymryd rhan yn y cynlluniau hyn, ein bod yn gallu lledaenu’r arferion da hyn i ardaloedd eraill yng Nghymru fel y gall pob plentyn gymryd rhan.
Rwy’n credu ein bod i gyd yn cydnabod bod mynediad at brofiad gwaith yn hynod o bwysig i bobl ifanc, ac nid unrhyw brofiad gwaith, ond profiad gwerth chweil a gwerthfawr, nad yw’n dibynnu ar beth sydd hawsaf neu bwy rydych yn ei adnabod o bosibl. Wrth gofio fy mhrofiad gwaith fy hun, euthum i’r ‘Flintshire Chronicle’, lle y gallwch ddod o hyd i erthygl gan Hannah Blythyn, 15 oed, gyda’r pennawd, ‘Don’t criticise what you don’t understand: Having a Go at Politicians’. [Chwerthin.] Roedd yr erthygl honno’n edrych mewn gwirionedd ar sut y mae pobl ifanc yn cael eu stereoteipio a bod angen gwrando arnynt, ac rwyf bellach mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am hynny. Mewn digwyddiad diweddar gyda myfyrwyr yng Ngholeg Cambria yn Llaneurgain, buom yn siarad am fynediad at waith, a phrofiad gwaith a thrafodwyd pethau. Ac un o’r pethau a grybwyllwyd ganddynt, ochr yn ochr â’ch profiad gwaith traddodiadol, oedd edrych am bethau sydd â mwy o sesiynau blasu, lle y gall pobl fynd i weithleoedd a phrofi’r opsiynau gwahanol sydd ar gael, yn 16 oed a hŷn, i helpu i ddylanwadu ar eu penderfyniadau ynglŷn â’u haddysg bellach, prentisiaethau a hyfforddiant. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y byddai hynny’n syniad da, gyda syniad y bobl ifanc, i wneud hynny, a pha gamau y gellir eu cymryd er mwyn gwneud i hynny ddigwydd?
Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hollbwysig yw ein bod yn ystyried beth fydd pobl ifanc eu hunain yn ei weld yn ddefnyddiol. Rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae pobl efallai wedi bod yn gwneud y gwaith llungopïo am wythnos, ac nid dyna’r math mwyaf defnyddiol neu ysgogol neu ysbrydoledig o leoliad o reidrwydd. Felly, rhaid i ni ganolbwyntio ar ansawdd y lleoliadau hynny, ac mae’n rhaid i ni wrando ar bobl ifanc ynglŷn â’r hyn y maent yn ei ystyried yn fwyaf defnyddiol iddynt hwy, ac efallai’n wir mai sesiynau blasu byrrach fydd hynny, i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd iddynt edrych ar amrywiaeth o yrfaoedd. Ac yn aml mae angen i ni wneud hynny’n gynharach ym mywyd disgybl, oherwydd weithiau, mae’n bosibl y gall y dewisiadau y maent yn eu gwneud ar lefel TGAU leihau, neu gau’r drws yn llwyr ar opsiynau gyrfaoedd yn y dyfodol.
Hoffwn ganmol gwaith Cyngor Sir Powys, er enghraifft, a drefnodd ffair yrfaoedd yn gynharach eleni ar draws y sir, i ddod â sefydliadau cyflogaeth o bob rhan o’r sir at ei gilydd, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, i ddangos i bobl ifanc yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael yn sir Powys, ac i siarad â hwy ynglŷn â sut y gallant wneud dewisiadau addysgol a fydd yn eu galluogi i fanteisio ar hynny. A dylid cymeradwyo’r mathau hynny o gynlluniau arloesol sy’n cael eu rhoi ar waith gan rai awdurdodau lleol, ac unwaith eto, mae angen i ni wneud yn siŵr fod hynny’n cael ei ailadrodd fel arfer da ar draws y wlad.