<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:44, 14 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ond mae pedwar mis ers i chi ddweud wrthyf eich bod yn ceisio camu ymlaen gyda’r agenda hon, ac o ystyried, unwaith eto, y data a’r ystadegau sydd gennym, yn amlwg, mae amser yn brin. Felly, nid wyf am bwyso arnoch ymhellach ynglŷn â hynny heddiw, ond yn amlwg, mae neges yno y mae angen gwrando arni.

A gaf fi newid cyfeiriad ychydig bach ar gyfer fy nghwestiwn olaf? Bydd yn dod yn glir, Llywydd, pam rwy’n cyfeirio fy nghwestiwn at Ysgrifennydd y Cabinet ac nid at y Gweinidog mewn munud. Mae’n ymwneud â’r Bil anghenion dysgu ychwanegol. Dywedodd y Gweinidog wrthym fod £10 miliwn o’r gyllideb £20 miliwn sydd ganddo ar gyfer ariannu’r rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yn dod o’r £100 miliwn y daethoch i gytundeb â’r Prif Weinidog yn ei gylch ar gyfer codi safonau ysgolion. Dywedodd hynny wrthym yn ystod proses graffu Cyfnod 1 y Bil. Gan ei bod wedi dod yn amlwg yn awr, wrth gwrs, fod cost y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol yn sylweddol uwch—hyd at £13 miliwn yn fwy drud—nag a ragwelwyd yn wreiddiol yn ystod y cyfnod arfaethedig, a allech ddweud wrthym a ydych yn disgwyl swm pellach i gael ei gyfeirio o’r £100 miliwn ar gyfer safonau ysgolion, ac os yw hynny’n digwydd, pa effaith a gaiff hynny ar y gyllideb benodol honno yn eich barn chi?