Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 14 Mehefin 2017.
Gadewch inni fod yn hollol glir: wrth ddiwygio’n llwyr y ffordd rydym yn cynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol, mae hynny’n rhan annatod o’n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau mewn ysgolion yng Nghymru a chau’r bwlch cyrhaeddiad. Mae perfformiad y plant hynny’n allweddol os ydym am weld y newidiadau sydd eu hangen arnom mewn addysg yng Nghymru. Nawr, yn ddi-os, ceir goblygiadau o ran adnoddau i sicrhau bod y plant hynny—a bod y ddeddfwriaeth honno’n cael ei gweithredu’n llwyddiannus, a byddwn yn parhau i gael trafodaethau yn yr adran addysg ynglŷn â sut yr ariennir y ddeddfwriaeth, a thrafodaethau ar draws y Llywodraeth. Ond rwy’n hollol bendant na allwn ysgaru addysg ein plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol oddi wrth ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau i bawb.