Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 14 Mehefin 2017.
Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud i helpu ysgolion ar eu taith wella wedi’i deilwra ar gyfer amgylchiadau unigol pob ysgol. Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn, ‘A allwn fod yn hyderus fod y lefel o gymorth yn ddigonol i symud ysgol yn ei blaen?’ Yr ateb i hynny yw ‘gallwn’, a’r rheswm y gallaf ddweud hynny yw fy mod wedi ymweld ag ysgolion a oedd, bedair blynedd fer yn ôl, yn y categori coch, a flwyddyn ar ôl blwyddyn, maent wedi codi drwy’r system gategoreiddio a bellach yn ysgolion gwyrdd. Nawr, bydd taith wella rhai ysgolion yn cymryd mwy o amser a bydd angen lefelau mwy parhaus o gefnogaeth. Holl bwynt ein system gategoreiddio yw ein bod, drwy weithio ar y cyd â’r consortia a’r ysgolion unigol, yn gallu nodi diffygion, gallwn nodi’r hyn sydd angen ei wneud, a bydd y gefnogaeth yn cael ei rhoi ar waith i wneud y gwelliannau hynny.