<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:52, 14 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn amlwg yn elwa o’r math o gyngor a chymorth rydych yn sôn amdanynt, ac rwy’n sylweddoli bod gwella ysgolion yn broses barhaus, a dyna pam fy mod yn pryderu am y diffyg cymorth pendant a adlewyrchir yn y canllawiau ar y system gategoreiddio ysgolion. Fodd bynnag, bydd rhai pobl ifanc wedi treulio eu haddysg naill ai mewn ysgol categori oren neu goch wrth i chi fynd ati i wella ysgolion gan bwyll bach. Beth a wnewch i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc y mae’r system addysg yng Nghymru wedi gwneud cam â hwy?