Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 14 Mehefin 2017.
Yn sicr, nid wyf yn mynd ati gan bwyll bach, ond gallaf ddweud wrthych mai’r hyn na fydd yn gweithio yw i mi stampio’r llawr yma yn y Siambr hon. Mae gwella ysgolion yn ymdrech ar y cyd sy’n gyfrifoldeb i arweinwyr ysgolion unigol, y staff yn yr ysgolion hynny, y cyrff llywodraethu, awdurdodau addysg lleol, y consortia rhanbarthol, ac yn wir, y Llywodraeth hon. Rwy’n disgwyl llawer iawn gan ein system addysg. Rwy’n disgwyl llawer iawn gan ein harweinwyr ysgol. Nid oes ganddynt unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond rwyf hefyd yn gwybod bod angen i mi roi mesurau ar waith i helpu’r ysgolion hynny i wneud y gwelliannau, a dyna rwy’n mynd i barhau i’w wneud.