<p>Llwyth Gwaith Athrawon</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:01, 14 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Yn y Ffindir, nid oes ganddynt drefn arolygu ysgolion, dim tablau cynghrair, nac unrhyw brofion neu arholiadau hyd nes eu bod yn 16 oed, caiff gwaith cartref pob plentyn ei gyfyngu i hanner awr fan bellaf, ac mae ganddynt y system addysg fwyaf llwyddiannus yn y byd. Dyna oedd y model roeddem i fod i’w fabwysiadu ac eto rydym yn dechrau cynnal profion ar blant saith oed ac rydym wedi mewnforio system o’r drws nesaf yn Lloegr yn ei chyfanrwydd, system dan ormod o bwysau sy’n cael ei gorweithio a’i gor-reoleiddio, a system addysg sy’n methu. Pam?