<p>Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:03, 14 Mehefin 2017

Diolch yn fawr am yr ymateb yna, Gweinidog. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis diwethaf, mae llawer yn gofyn pam nad yw cyngor Pen-y-bont yn gwneud mwy i hyrwyddo a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Dim ond pedair ysgol gynradd Gymraeg sydd yn y sir, lefel isel iawn mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill. A ydych chi’n cytuno bod y sefyllfa bresennol ym Mhen-y-bont yn anfoddhaol, a beth ydych chi’n ei wneud i newid y sefyllfa, yn enwedig drwy hyrwyddo addysg Gymraeg a chodi’r nifer o blant ifanc sy’n derbyn addysg Gymraeg yn y sir?