Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Mehefin 2017.
Rydw i’n bendant yn cytuno bod Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn hynod o lwyddiannus, a dylem ni longyfarch pob un o’r gwirfoddolwyr wnaeth hybu a chyfrannu at lwyddiant Eisteddfod yr Urdd. Rwy’n credu bod lot fawr o Aelodau wedi ymweld â maes yr Eisteddfod ac wedi mwynhau eu hymweliad. Mae Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi gofyn i Aled Roberts wneud arolwg o’r WESPs i gyd, yn cynnwys Pen-y-bont, ac mi fydd e’n adrodd imi yn ystod yr wythnosau nesaf. Mi fyddaf i’n cyhoeddi ei adroddiad llawn e unwaith rydw i’n gallu gwneud hynny. Ond a gaf i ddweud hyn? Rydych chi’n gofyn am Ben-y-bont. Mae Pen-y-bont yn dangos bod yna uchelgais a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae cyngor Pen-y-bont yn gwneud hynny, ond mae’n rhaid i ni gydweithio gyda nhw a chydweithio gyda’n gilydd i sicrhau eu bod nhw yn gallu cyrraedd y weledigaeth y maen nhw wedi ei gosod.