<p>Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:07, 14 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n meddwl bod yna newid swyddogion wedi bod yn yr ardal benodol y soniwch amdani ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, felly gobeithio y byddwn yn gweld rhywfaint o welliant. Ond roeddwn am ofyn i chi ynglŷn â rhywbeth arall. Rydych wedi cydnabod yn flaenorol y rôl y gall busnesau Cymru ei chwarae yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn wir, yn ysgogi’r galw am sgiliau mewn gwirionedd, ac rydym yn aml yn siarad yn gadarnhaol yn y Siambr hon am gydweithio rhwng busnesau ac ysgolion a cholegau, o ran dylanwadu ar, a hwyluso yn wir, y ffordd y caiff y cwricwlwm ei gyflwyno mewn ffordd ddiddorol. A ydych yn cael unrhyw awgrym yn ddiweddar fod busnesau efallai’n fwy awyddus i weithio gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd y nod i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg? Neu a yw’r enghreifftiau hyn o gydweithredu yn dal i fod i raddau helaeth yn benderfyniadau lleol—perthynas dda rhwng arweinwyr busnes ac arweinwyr ysgolion neu golegau—lle nad yw’r iaith yn ystyriaeth ar eu hagenda o bosibl?