<p>Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:08, 14 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Yr hyn a welaf, fel y dywedais wrth ateb Huw Irranca-Davies, yw llawer iawn o ewyllys da o bob rhan o’r gymuned, gan gynnwys busnesau, a’r hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud, drwy gyhoeddi’r strategaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y toriad, yw ymgais i sicrhau bod cydweithio yn cael ei wireddu, yn cael ei annog, yn cael ei ddarparu gyda chefnogaeth, ac yn galluogi pobl i weithio gyda’i gilydd, oherwydd credaf mai hynny’n union y mae pobl eisiau ei wneud, er mwyn cyflawni’r uchelgais a’r weledigaeth rydym i gyd yn ei rhannu ar gyfer dyfodol yr iaith.