Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Mehefin 2017.
Wel, Llywydd, nid wyf yn meddwl bod yna unrhyw beth arbennig o atyniadol neu ysbrydoledig ynglŷn â pheth o’r cecru sy’n digwydd yn y Siambr hon. Yr hyn rwy’n ei gydnabod yw bod gan bobl ifanc ddiddordeb mewn dod o hyd i atebion i’r problemau y maent yn eu hwynebu yn eu bywydau ac yn eu cymunedau. Mae arfogi’r bobl ifanc hynny â’r gallu i ddwyn gwleidyddion i gyfrif, i graffu ar eu gwaith ac i allu gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut y dylent bleidleisio yn gwbl hanfodol i’n llwyddiant parhaus fel cymdeithas. Mae gwleidyddiaeth ac ymwneud dinesig eisoes yn rhan o’n cwricwlwm cyfredol, o dan drefniadau addysg bersonol a chymdeithasol. Rwy’n disgwyl y bydd gwleidyddiaeth yn chwarae rhan ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau. Ond mae’n gwbl hanfodol—yn wir, mae pobl ifanc eu hunain yn ei fynnu gennym—eu bod yn gallu cael mynediad at y math hwn o gwricwlwm. Maent yn gwybod ei fod yn bwysig, maent ei eisiau, a byddwn yn ei ddarparu ar eu cyfer.