Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch. Ym mis Medi 2010, gwnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymrwymiad i gynyddu cyfraddau dirprwyo i ysgol i 80 y cant mewn dwy flynedd, gan weithio tuag at 85 y cant o fewn dwy flynedd arall—h.y. 2014. Pan holais eich rhagflaenydd ym mis Mawrth y llynedd, mynegodd ei fod yn deall fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi rhagori ar y gyfradd ddirprwyo o 85 y cant a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi pennu disgwyliad iddi gyrraedd 90 y cant yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, dangosodd ffigurau 2016-17 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fod 14 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn dal yn is na’r ffigur o 85 y cant, a bod pob un ohonynt yn is na’r ffigur o 90 y cant. A allwch gadarnhau beth yw nod y Llywodraeth hon yn y maes hwn, a sut y mae’n bwriadu cau’r bwlch?