Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr her fawr i athrawon yw nid yn unig cael myfyrwyr i ddarllen, ond eu cael i fwynhau gwneud hynny hefyd. Gall llenyddiaeth Saesneg danio angerdd gydol oes tuag at ddarllen. Gyda newidiadau i’r ffordd y mesurir datblygiad llythrennedd yng nghyfnod allweddol 4, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod disgyblion yn parhau i gael gwersi llenyddiaeth Saesneg ar lefel TGAU. Fel yr ysgrifennodd un o fy etholwyr, Rajvi Glasbrook Griffiths, sy’n athro, yn ddiweddar:
llythrennedd diwylliannol yw un o’r dulliau mwyaf pwerus o sicrhau symudedd cymdeithasol a chynnydd.
Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod dysgu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yn parhau i chwarae rhan bwysig yn ysbrydoli a meithrin pobl sy’n hoff o ddarllen yn y dyfodol, yn enwedig i rai nad oes ganddynt lyfrau at eu defnydd yn y cartref?