Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch i chi am hynny. Rwy’n ymwybodol o bryderon ynglŷn â mater llenyddiaeth yng nghyfnod allweddol 4, a bod rhai ysgolion wedi bod yn lobïo dros fwy o bwyslais ar lenyddiaeth yn y mesurau perfformiad. Rwyf eisoes wedi dynodi bod atebolrwydd ysgolion yn cael ei adolygu fel rhan o’n diwygiadau addysg a’n cenhadaeth genedlaethol i wella safonau addysg. Cyflwynasom raglenni astudio newydd ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg yn 2015 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol addysgu elfennau iaith a llenyddiaeth i bawb hyd at ddiwedd cyfnod allweddol 4. Rwy’n cadw mynediad at lenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth Saesneg TGAU dan arolwg a byddaf hefyd yn gofyn i Estyn adolygu ymarfer ysgolion yn addysgu llenyddiaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4.