Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch am y cwestiwn. Mae swyddogion mewn tîm polisi masnach sydd newydd ei sefydlu yn y broses o asesu’r canlyniadau polisi a’r canlyniadau cyfreithiol i’r DU o fasnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Rydym yn bwriadu rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am y gwaith hwn dros y misoedd nesaf.