Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 14 Mehefin 2017.
Ar 21 Ionawr 2015, arweiniais ddadl Aelod unigol yma a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf awtistiaeth i Gymru, a phleidleisiodd yr Aelodau o blaid. Wyth mis yn ôl, arweiniais ddadl amhleidiol yn cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod pumed tymor y Cynulliad. Arweiniodd y ffaith iddo gael ei drechu, yn ôl y pleidiau, at ofid mawr, ac rwy’n gweddïo y gallwn symud y tu hwnt i hyn heddiw a darparu, o’r diwedd, ar gyfer y gymuned awtistiaeth yng Nghymru. Felly, diolch i fy nghyd-Aelod, Paul Davies am gyflwyno cynigion heddiw i sicrhau bod awtistiaeth yn cael hunaniaeth statudol briodol yng Nghymru a bod gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn diwallu eu hanghenion go iawn.
Er nad yw awtistiaeth yn fater iechyd meddwl nac anhawster dysgu, mae pobl ag awtistiaeth yn disgyn rhwng dwy stôl gan nad oes unman arall i fynd. Ceir pryderon difrifol nad yw strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i wneud y newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld oni bai ei bod yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth. Byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â’r gofal a’r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl. Mae adnoddau ar-lein ar gyfer y gymuned awtistiaeth, ffilmiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol y rheng flaen a siartiau llif gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol yn iawn, ond ni fydd y gymuned awtistiaeth yn cael y cymorth y maent yn gwybod eu bod ei angen hyd nes y ceir sylfaen ac atebolrwydd statudol a’n bod yn symud y tu hwnt i ymgynghori i rôl uniongyrchol ar gyfer cyrff sector proffesiynol a’r trydydd sector a’r gymuned awtistiaeth mewn perthynas â chynllunio, darparu a monitro.
Pleidleisiodd y cyfarfod o’r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, a fynychwyd gan aelodau o’r gymuned awtistiaeth ledled Cymru ym mis Tachwedd 2014, yn unfrydol o blaid galw am Ddeddf awtistiaeth. Clywsom fod y strategaeth wedi addo cyflawni cymaint ond bod pobl yn cael eu gwthio i argyfwng gwaeth, fod pobl wedi’u siomi ac yn ddig fod yn rhaid iddynt ymladd mor galed i gael y cymorth sydd ei angen arnynt a’i bod yn bwysig nad yw pobl sydd ag awtistiaeth yn anweledig i wasanaethau mwyach.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd unrhyw un o’r ymatebion i’w dogfen ymgynghorol ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd wedi gofyn am Ddeddf awtistiaeth, nid oedd hyn yn rhan o’r ymgynghoriad na’r cwestiynau. Yn wir, dywedai’r ymateb gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, a ysgrifennwyd gyda mewnbwn gan eu haelodau cangen ar draws Cymru, fod cefnogaeth statudol i’r strategaeth, ynghyd â mesur cynnydd yn llawer mwy manwl er mwyn cyflawni amcanion allweddol y strategaeth, yn hanfodol er mwyn sicrhau’r newid y mae pawb ohonom eisiau ei weld ar gyfer plant ac oedolion awtistig ac aelodau eu teuluoedd.
Rwy’n cynrychioli nifer fawr o etholwyr yn y gymuned awtistiaeth sy’n ymladd y system er mwyn cael y gwasanaethau y maent hwy neu eu hanwyliaid eu hangen. Cafodd hyn ei grynhoi mewn e-bost a gefais yr wythnos hon, a oedd yn dweud, ‘Mae fy mab 11 oed wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac ar hyn o bryd, nid yw’n cael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arno. Gallai eich pleidlais dros y Bil wneud byd o wahaniaeth i’w ddyfodol ac eraill tebyg iddo.’
Fel y dywedodd y prosiect grymuso menywod awtistig wrth y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol a gadeirir gennyf, mae’r gwahaniaeth rhwng y modd y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun mewn menywod a merched yn awgrymu y dylai’r gymhareb a dderbynnir o bum bachgen i un ferch fod yn llawer agosach mewn gwirionedd, lle mae llawer o fenywod yn cael eu gadael heb ddiagnosis, gyda diagnosis anghywir neu heb gefnogaeth. Fel y mae rhieni nifer o ferched wedi dweud wrthyf yn bersonol, nid yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, fod awtistiaeth yn amlygu ei hun yn wahanol mewn merched ac nad yw llawer o fenywod yn gallu cael mynediad at ddiagnosis oherwydd safbwyntiau ystrydebol, gan olygu bod merched a menywod awtistig yn cael eu gadael yn agored i lefelau isel o hunan-werth, pryder, iselder a hunan-niweidio. Yn rhy aml, caiff rhieni eu gorfodi wedyn i dalu am asesiad awtistiaeth preifat. Dywedai llythyr gan y bwrdd iechyd yn 2017 fod gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed Sir y Fflint, ac rwy’n dyfynnu, ‘wedi lleisio pryderon ynglŷn â thrylwyredd a chasgliadau nifer o asesiadau preifat’, ac mewn rhai achosion, nid oedd yn derbyn y diagnosis, a’i bod yn ofynnol i’r rhain fod yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ond pan soniais wrth y meddyg a oedd wedi cynnal yr asesiadau hyn, atebodd ei bod mewn gwirionedd yn un o’r rhai a gyfrannodd at y canllawiau NICE hynny. Mae’r un enghraifft hon yn amlygu problem sefydliadol ehangach, a pham y mae angen Deddf awtistiaeth ar Gymru i ateb anghenion plant ac oedolion â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru, ac i ddiogelu a hyrwyddo hawliau oedolion a phlant ag awtistiaeth yng Nghymru. Diolch yn fawr, Paul.