Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 14 Mehefin 2017.
Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r Bil hwn heddiw. Safodd Plaid Cymru, yn etholiad diwethaf y Cynulliad, ar faniffesto a oedd yn galw am ddeddfwriaeth i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl ag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a byddai’r cynnig hwn yn gwneud yn union hynny. Felly, byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig, ac rwy’n gobeithio y bydd yn pasio heddiw fel y gall yr Aelod gyflwyno Bil gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn.
Fel y siaradwr blaenorol, rwyf wedi colli cyfrif sawl gwaith rwyf wedi cyfarfod â rhieni gofidus sydd wedi brwydro i gael gwasanaethau ar gyfer eu plant ac sydd wedi methu gwneud hynny. Does bosibl nad rôl y Llywodraeth yw gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu chwarae rhan lawn yn y gymdeithas—mae gormod o bobl yn cael eu hatal rhag gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae gormod o bobl yn teimlo fel pe bai ein cymdeithas heb gael ei chynllunio i’w cynnwys. Nawr, rwy’n derbyn nad yw mewnflwch llawn bob amser yn ganllaw i’r hyn sy’n iawn neu beidio, ond gall fod yn arwydd o’r hyn sy’n bwysig, o beth sydd o bwys i ddinasyddion yng Nghymru. Ac fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth, yn ogystal â lobïo ar y cyfryngau cymdeithasol, yn galw am ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Mae yna alw mawr gan bobl ag awtistiaeth ac aelodau o’u teuluoedd i weld awtistiaeth yn cael ei chydnabod mewn deddfwriaeth benodol. Rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaeth Lynne Neagle yn ei chyfraniad. Rwy’n credu bod angen inni ystyried canlyniadau anfwriadol, ond rwy’n credu bod hwn yn rhywbeth y mae angen i ni fwrw ymlaen ag ef.
Mae pobl yn deall y gwahaniaethau rhwng gwasanaethau a deddfwriaeth, ac maent yn deall bod gwasanaethau’n fwy tebygol o gael yr adnoddau a’r sylw y maent yn eu haeddu os oes dyletswydd statudol ar waith. Pan gyflwynwyd deddfwriaeth o’r fath yn y gorffennol, gwnaed addewidion am well gwasanaethau gan Lywodraeth Cymru. Efallai mai’r Bil arfaethedig fydd y cyfrwng i gyflawni’r gwelliannau hynny. Gallai fod yn ffordd o wneud yn siŵr fod y mathau hynny o addewidion yn cael eu cadw. Yn dibynnu ar yr hyn sy’n digwydd ar y camau diweddarach, gallai’r Bil sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn llunio cynlluniau strategol ar gyfer gwasanaethau a gwneud iddynt ddarparu digon o adnoddau. Roedd y cynllun gweithredu strategol a gyflwynwyd yn 2008 yn arloesol, ac mae’r cynnig yma yn cydnabod hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â beirniadu Llywodraethau Cymru yn y gorffennol, ond heb amheuaeth, ceir bylchau yn y ddarpariaeth o hyd—fel y mae, wrth gwrs, ac fel y mae eraill wedi dweud, gyda chymaint o gyflyrau eraill.
Dylai’r ddeddfwriaeth ei hun arwain at wasanaethau gwell, ond mae symbolaeth deddfwriaeth hefyd yn bwysig. Byddai deddfu ar hyn yn anfon neges ynglŷn â’n blaenoriaethau fel gwlad. Byddai’n dangos ein bod yn malio am yr holl blant ac oedolion nad oes gan gymdeithas le go iawn ar eu cyfer. Byddai’n dweud wrth rieni, teuluoedd a gofalwyr fod pobl ag awtistiaeth yn cyfrif, ac y byddwn yn cydnabod ac yn diogelu eu hawliau.
Byddai cymeradwyo’r cynnig hwn yn gefnogaeth gref gan y Senedd hon, ond mae’n rhaid bwrw drwyddi gyda’r gwaith hefyd. Ers gormod o amser, mae pobl ar y sbectrwm awtistig wedi cael eu hatal rhag byw eu bywydau’n llawn. Trwy gefnogi’r ddeddfwriaeth hon, byddwn yn cymryd un cam bach tuag at gymdeithas gyda chyfle cyfartal go iawn i bawb. Rwy’n fwy na hapus i ychwanegu fy llais at y lleisiau eraill heddiw i annog Aelodau o bob plaid i gymeradwyo egwyddorion Bil awtistiaeth. A chymeradwyaf yr Aelod am ei gynnig heddiw ac rwy’n edrych ymlaen at ei gefnogi. Diolch yn fawr.