Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 14 Mehefin 2017.
Mi wnaf gadw fy nghyfraniad heddiw yn fyr. Eisiau datgan fy nghefnogaeth ydw i, yn syml iawn, i’r cynnig pwysig iawn yma. Mae’r nod yn syml iawn, iawn yn fan hyn, onid yw, ac mae hefyd yn hynod, hynod gyffrous rwy’n meddwl. Y nod ydy dileu hepatitis C yng Nghymru yn gyfan gwbl. Oes, mae yna ymrwymiad gan Sefydliad Iechyd y Byd i waredu erbyn 2030, ond mi allem ni yng Nghymru symud ar amserlen dynnach na hynny. Mae cymal 1 y cynnig sydd o’n blaenau ni heddiw yn dangos bod llawer o’r isadeiledd iechyd gennym ni yn barod, yn benodol, ac yn arbennig felly, y bobl sydd gennym ni o fewn ein cyfundrefn iechyd, ac rwy’n falch iawn o allu diolch iddyn nhw heddiw am y camau bras sydd wedi cael eu cymryd yn barod o ran hyn.
Mi fyddwn i hefyd yn hoffi diolch i Julie Morgan am y gwaith mae hi yn ei wneud yn y maes yma. Mae wedi bod yn bleser cydweithio nid yn unig ar hepatitis C a’r gwaredu y gobeithiwn y gwelwn ni yn y blynyddoedd i ddod, ond hefyd ar y testun o waed wedi ei heintio. Ond mae wedi fy nharo i, fel mae o wedi taro yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, mai’r broblem sydd gennym ni bron iawn ydy diffyg cleifion ar hyn o bryd, ac mae hynny, onid yw, yn deyrnged i’r staff sydd gennym ni o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae o’n swnio’n od iawn, ond mae gennym ni fwy o gapasiti nag sydd gennym ni o gleifion i fynd drwy y system, ac mae’n deg dweud nad ydym ni yn sôn am hynny’n aml iawn pan rydym yn sôn am yr NHS, ond mae’n wir yn yr achos hwn. A’r gwir ydy mai canfod y rheini sydd ddim wedi cael y diagnosis, sydd ddim yn gwybod eu bod nhw mewn grŵp risg, sydd ddim yn dangos symptomau, ydy’r her o’n blaenau ni er mwyn i ni allu symud ymlaen tuag at waredu.
Ni wnaf ailadrodd rhai o’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod ynglŷn â sut i wneud hynny drwy dynhau pethau o fewn gofal sylfaenol, drwy chwilio am grwpiau a allai fod o risg uchel—mwy o brofion mewn carchardai ar ddefnyddwyr cyffuriau, profion yn y system ‘antenatal’, ac yn y blaen. Mae’r gwaith da a’r sylfeini wedi cael eu gosod yn barod, ac rwy’n ddiolchgar i’r Llywodraeth am y gwthio sydd wedi cael ei wneud yn y fan hyn yn barod. Ond rwyf yn falch bod y cynnig yma gennym ni heddiw, ac rwy’n falch iawn o gael cefnogi’r cynnig heddiw er mwyn rhoi gwthiad pellach tuag at gyrraedd y nod yma, sydd yn uchelgais gwirioneddol gyraeddadwy yma yng Nghymru, a rhywbeth rwy’n gwybod y byddwn ni fel cenedl yn falch iawn ohono fo pan rydym ni yn cyrraedd y nod.