Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 14 Mehefin 2017.
Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn ac ymdrechion i ddileu hepatitis C erbyn 2030. Fel y mae eraill wedi nodi, mae hepatitis C yn glefyd sy’n effeithio ar oddeutu 2 y cant o boblogaeth y byd ac mae’n gyfrifol am gannoedd o filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Felly, nid yw’n syndod fod Sefydliad Iechyd y Byd yn awyddus i gael gwared ar y clefyd.
Addawodd Llywodraeth y DU ei chefnogaeth i nodau dileu Sefydliad Iechyd y Byd y llynedd a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn yr esiampl hon. Mae’r GIG yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn trin pobl sydd â hepatitis C yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd bron i 900 o gleifion eu trin y llynedd mewn ymgais i glirio’r ôl-groniad o gleifion sy’n aros am driniaeth. Fodd bynnag, gyda hyd at 7,000 o bobl yng Nghymru wedi’u heintio’n ddiarwybod iddynt gan firws hepatitis C, rhaid gwneud llawer iawn mwy i ganfod a thrin pobl sy’n byw gyda’r clefyd.
Mae gwir angen cynllun gweithredu strategol ar Gymru i leihau achosion o hepatitis C er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn blaenoriaethu gwaith ar ddileu’r clefyd yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer clefyd yr afu. Dylai’r cynllun gweithredu strategol, fan lleiaf un, weithredu ac adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad Ymddiriedolaeth Hepatitis C ar gyfer 2016 ar hepatitis C yng Nghymru. Wrth baratoi’r adroddiad hwnnw, canfu Ymddiriedolaeth Hepatitis C fod pobl sy’n dioddef o hepatitis C yng Nghymru yn cynnwys nifer anghymesur o bobl o’r grwpiau mwyaf difreintiedig ac ymylol mewn cymdeithas, a daw tri chwarter y bobl sydd â’r feirws o’r ddau gwintel economaidd-gymdeithasol isaf. Canfuwyd hefyd fod eu hanfantais wedi’i waethygu gan stigma hepatitis C. Canfu Ymddiriedolaeth Hepatitis C fod gweithwyr iechyd proffesiynol wedi dweud wrth y rhai a gafodd ddiagnosis yn y 1980au i beidio â dweud wrth unrhyw un arall am eu diagnosis, a soniodd sawl un am y blynyddoedd o euogrwydd wedi’i fewnoli a’r cywilydd a ddeilliodd o hynny. Diolch byth, mae ein GIG wedi symud ymlaen o’r cyfnod cywilyddus hwnnw. Fodd bynnag, mae’r stigma’n parhau. Mae gennym lawer gormod o bobl â hepatitis C sy’n sôn am yr ymdeimlad o euogrwydd a chywilydd a deimlant neu’r ffordd y maent, rywsut, yn teimlo’n fudr. Yn anffodus, mae hyn yn aml yn arwain at wneud i’r unigolion hynny ymddieithrio o ofal yn gyfan gwbl, er eu bod yn ymwybodol o’u diagnosis—penderfyniad sy’n cynyddu’r risg o sirosis neu ganser yr afu yn fawr.
Er mwyn mynd i’r afael â stigma gorchfygol o’r fath a’r niwed anhygoel y mae’n ei wneud, mae adroddiad Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn argymell y dylid cymryd camau i normaleiddio’r clefyd drwy gynnal ymgyrchoedd cadarnhaol ar y cyfryngau i dynnu sylw at y trawstoriad o bobl sy’n byw gyda’r feirws. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda’i gymheiriaid yng ngweddill y DU ac Ymddiriedolaeth Hepatitis C i gyflwyno ymgyrch o’r fath. Fodd bynnag, os ydym am gael gwared ar y stigma yn gyfan gwbl, mae’n rhaid inni sicrhau bod y bobl sy’n byw gyda’r feirws yn cael profiadau cadarnhaol wrth ymdrin â phob gweithiwr iechyd proffesiynol. Mae pobl sydd â hepatitis C wedi sôn am y modd y trefnir bob amser iddynt gael triniaeth ddeintyddol olaf y dydd er mwyn rhoi amser, mae’n debyg, i bractisau deintyddol gyflawni arferion rheoli heintiau ychwanegol. Mae arferion o’r fath wedi peri i bobl deimlo eu bod yn creu perygl i bobl eraill ac mewn rhyw ffordd yn wahanol i weddill y boblogaeth. Mae’n rhaid rhoi diwedd ar hyn. Dylai mesurau rheoli heintiau ychwanegol fod yn ddiangen—dylai fod gan bractisau deintyddol ddigon o fesurau rheoli heintiau ar waith gyda phob claf i atal trosglwyddo pob feirws a gludir yn y gwaed.
Mae’n rhaid i ni addysgu nid yn unig y cyhoedd, ond ein gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd, ynglŷn â hepatitis C. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu argymhellion Ymddiriedolaeth Hepatitis C ac anogaf yr Aelodau i gefnogi’r cynnig. Gyda’n gilydd, gallwn ddileu’r clefyd ofnadwy hwn. Diolch yn fawr, Llywydd.