Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 20 Mehefin 2017.
Mae hi’n broblem—rwy’n cytuno â hynny. Nid wyf i’n credu bod hwn yn rhywbeth sy’n gallu cael ei ddatrys ar lefel Gymreig o achos y ffaith bod siẁd gymaint o bethau’n dod mewn i Gymru o wledydd eraill lle mae yna reoliadau eraill. Felly, i fi, y ffordd o sicrhau bod yna lai o wastraff yn cael ei greu yn y lle cyntaf, dylai hwnnw gael ei ddelio ag e ar lefel Ewropeaidd, o leiaf, ond ar lefel fyd-eang. Achos dyna’r ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod cynhyrchwyr mewn gwledydd, er enghraifft, fel Tsieina, sydd yn allforio siẁd gymaint o gynnyrch i wledydd Ewrop, yn lleihau’r plastig y maen nhw’n ei ddefnyddio, er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod yna lai felly sy’n gorfod cael ei ailgylchu yng Nghymru.