1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2017.
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu targedau ailgylchu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0663(FM)
Wel, byddwn yn adolygu targedau ailgylchu yn rhan o'r adolygiad parhaus o strategaeth wastraff Cymru. Yn ogystal â gwerthuso ein perfformiad llwyddiannus yn erbyn targedau cyfredol, bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth o dargedau i'w gosod y tu hwnt i 2025.
Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond mae 'llwyddiannus' yn dod i hyn: bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fod ei Llywodraeth wedi gosod targed i awdurdodau lleol ailgylchu 58 y cant o wastraff erbyn 2016. Ym mis Ebrill, adroddwyd bod tri chyngor—Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen—i gyd wedi methu eu targed, ond y byddent yn osgoi cael eu dirwyo hefyd. A oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i adolygu targedau ailgylchu yng Nghymru, ac, os ydynt yn mynd i gael eu cynyddu, pa gymhelliad fydd yna i gynghorau sy'n tanberfformio wella, o ystyried yr amharodrwydd i ddefnyddio dirwyon yng Nghymru?
Wel, rwy'n falch bod yr Aelod wedi nodi, bod y targed yn 58 y cant erbyn diwedd 2016. Mewn gwirionedd, fe wnaethom gyrraedd 60 y cant o ganlyniad i'r gwaith a wnaed. Y gwirionedd yw bod cymhelliad ariannol annatod i awdurdodau lleol ailgylchu mwy, gan y gallant gael mwy o arian am y cynhyrchion y maen nhw’n eu cynnig ar gyfer ailgylchu, ac nid oes rhaid iddyn nhw dalu cymaint o ran y dreth tirlenwi. Felly, mae’r awdurdodau lleol hynny nad ydynt yn cyrraedd y targedau a osodwyd, i bob pwrpas, yn costio mwy o arian i’w hunain, a dyna'r cymhelliad annatod o ran sicrhau ein bod ni’n gweld mwy o ailgylchu. A gaf i ddweud ein bod yn sicr ar y trywydd iawn i ragori ar y targed o 70 y cant yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer y flwyddyn 2024-25.
Er fy mod i’n croesawu’r llwyddiant ym maes ailgylchu, mae’n wir dweud y dylai’r prif ffocws erbyn hyn fod ar leihau gwastraff yn y lle cyntaf. Ac mae’n arbennig o broffidiol i gofio bod pob darn o blastig a grëwyd erioed yn dal mewn bodolaeth nawr, oni bai ei fod e wedi cael ei losgi. Ac, felly, onid yw hi’n bryd i edrych ar bethau fel cynllun dychwelyd blaendal, i weld sut y gallwn ni leihau plastig a polystyren yn ein hamgylchedd ni?
Mae hi’n broblem—rwy’n cytuno â hynny. Nid wyf i’n credu bod hwn yn rhywbeth sy’n gallu cael ei ddatrys ar lefel Gymreig o achos y ffaith bod siẁd gymaint o bethau’n dod mewn i Gymru o wledydd eraill lle mae yna reoliadau eraill. Felly, i fi, y ffordd o sicrhau bod yna lai o wastraff yn cael ei greu yn y lle cyntaf, dylai hwnnw gael ei ddelio ag e ar lefel Ewropeaidd, o leiaf, ond ar lefel fyd-eang. Achos dyna’r ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod cynhyrchwyr mewn gwledydd, er enghraifft, fel Tsieina, sydd yn allforio siẁd gymaint o gynnyrch i wledydd Ewrop, yn lleihau’r plastig y maen nhw’n ei ddefnyddio, er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod yna lai felly sy’n gorfod cael ei ailgylchu yng Nghymru.
Prif Weinidog, os ydym ni’n mynd i gael unrhyw obaith o gwbl o leihau faint o wastraff yr ydym ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, dylid gwneud cynlluniau ailgylchu mor hawdd â phosibl i berchnogion tai allu ailgylchu. Yn anffodus, mae’n ymddangos bod awdurdodau lleol yn gweithredu i’r gwrthwyneb. Mae Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, wedi gwneud llanast llwyr o gyflwyno eu cynllun ailgylchu newydd, sydd, yng ngeiriau dirprwy arweinydd y cyngor, wedi achosi niwed i ewyllys da y trigolion. Mae'r sefyllfa mor wael erbyn hyn fel bod mwy na 40 o gynghorwyr wedi cymryd y cam digynsail o ysgrifennu at arweinydd y cyngor i gwyno. Prif Weinidog, heb ewyllys da trigolion, mae cynlluniau ailgylchu yn siŵr o fethu. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ei gwneud mor rhwydd â phosibl i'r trigolion ailgylchu?
Wel, fel rhywun sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'n rhwydd, ac rwyf i’n sicr wedi ailgylchu yn y system newydd dros y pythefnos diwethaf heb unrhyw broblem o gwbl. Nid yw’n hynod wahanol i'r hen system, mewn gwirionedd. Cafwyd achosion lle nad yw sbwriel wedi cael ei gasglu fel y dylai, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod fod y cyngor wedi bod yn canolbwyntio arno. Ond mae’n rhaid i mi ddweud bod rhai o'r bobl sy'n cwyno yn bobl nad oeddent eisiau’r contract newydd yn y lle cyntaf, ac nad ydynt wedi eu hargyhoeddi bod y system bresennol yn rhywbeth sy'n werth chweil i’w wneud beth bynnag. Mater i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, yw ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n codi, ond rwyf wedi fy sicrhau ganddyn nhw eu bod yn gwneud hynny.