<p>Targedau Ailgylchu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, fel rhywun sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'n rhwydd, ac rwyf i’n sicr wedi ailgylchu yn y system newydd dros y pythefnos diwethaf heb unrhyw broblem o gwbl. Nid yw’n hynod wahanol i'r hen system, mewn gwirionedd. Cafwyd achosion lle nad yw sbwriel wedi cael ei gasglu fel y dylai, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod fod y cyngor wedi bod yn canolbwyntio arno. Ond mae’n rhaid i mi ddweud bod rhai o'r bobl sy'n cwyno yn bobl nad oeddent eisiau’r contract newydd yn y lle cyntaf, ac nad ydynt wedi eu hargyhoeddi bod y system bresennol yn rhywbeth sy'n werth chweil i’w wneud beth bynnag. Mater i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, yw ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n codi, ond rwyf wedi fy sicrhau ganddyn nhw eu bod yn gwneud hynny.