Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 20 Mehefin 2017.
Prif Weinidog, rydych chi’n gwbl anghyson yn hyn o beth. [Torri ar draws.] Mae ASau Llafur yn defnyddio'r term 'aelodaeth o’r farchnad sengl'. Mae Chuka Umunna wedi dweud nad yw mynediad at y farchnad sengl yn mynd yn ddigon pell. Mae eich Ysgrifennydd masnach yr wrthblaid, Barry Gardiner, wedi sôn am aelodaeth ddiwygiedig o'r farchnad sengl—aelodaeth. Nawr, ceir goblygiadau i Airbus o'r ddau safbwynt hyn pan ddaw i ryddid i symud, ac i’n diwydiannau eraill hefyd. Unwaith eto, rydym ni’n gweld llu o safbwyntiau ar hyn y tu mewn i'r Blaid Lafur a rhwng canghennau Cymru a'r DU. Prif Weinidog, nawr bod y trafodaethau ffurfiol wedi cychwyn, beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau bod y cytundeb terfynol yn un sy'n gweithio i Gymru?