1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 20 Mehefin 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Mae'r trafodaethau i’r DU ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd wedi cychwyn erbyn hyn, ac mae pwysigrwydd y trafodaethau hynny i Gymru y tu hwnt i amheuaeth. Yn ystod chwarter cyntaf 2017, cynyddodd ein gwarged masnach gyda'r UE i £2.5 miliwn. Rwyf i o'r farn na wnaeth etholiad y DU bythefnos yn ôl roi mandad i adael y farchnad sengl. A ydych chi’n cytuno?
Ni wnaeth yr etholiad cyffredinol roi mandad ar gyfer Brexit caled, ac, fel y mae ei phlaid hi a fy mhlaid innau wedi cytuno, yr hyn sydd ei angen arnom yw mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Nid yw’r farn honno wedi newid ac ni fydd yn newid yn y dyfodol.
Prif Weinidog, yn ystod ymweliad ag Airbus ar Lannau Dyfrdwy, dywedodd y cwmni wrthyf mai eu dwy flaenoriaeth allweddol ar gyfer perthynas y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol oedd, yn gyntaf, na ddylai fod unrhyw dariffau ar eu nwyddau a’u cydrannau, ac, yn ail, y dylent allu manteisio ar ryddid i symud gweithwyr medrus. Rydym wedi clywed rhybuddion yn ddiweddar gan Airbus y gallai methiant i fodloni’r blaenoriaethau hyn beryglu swyddi a buddsoddiad busnes. Byddech eisiau sicrhau’r ddwy flaenoriaeth hynny, yn unol â'n Papur Gwyn ar y cyd, ond, dywedasoch mewn cinio Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ddydd Gwener, y byddai aelodaeth o’r farchnad sengl yn anghydnaws â chanlyniad refferendwm yr UE. A wnewch chi gynnig eglurder nawr? A ydych chi’n diystyru aelodaeth o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop ac a ydych chi’n diystyru bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd?
Hoffwn atgoffa arweinydd Plaid Cymru o’r hyn y mae hi eisoes wedi cytuno iddo yn rhan o'r Papur Gwyn. Ceir dealltwriaeth dda o’r sefyllfa. Ni allwch fod yn aelod o'r farchnad sengl heb fod yn aelod o'r UE. Gallwch gael mynediad at y farchnad sengl heb fod yn aelod o'r UE, fel y mae Norwy wedi ei ddangos ac fel y mae'r gwledydd EFTA wedi ei ddangos. Nid wyf yn diystyru aelodaeth o EFTA. Nid wyf yn diystyru aelodaeth o'r AEE, o ran hynny ychwaith, yn enwedig yn y byrdymor. Ond os ydych chi’n aelod o'r farchnad sengl, mae’n awgrymu bod gennych chi lais yn y rheolau y mae’r farchnad honno’n gweithredu’n unol â nhw. Mae pobl y DU wedi dweud nad ydynt eisiau bod yn rhan o'r UE ac, felly, nad ydynt eisiau cael llais yn y ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu. Nid yw hynny'n golygu na allwn ni gael mynediad at y farchnad sengl.
Yr hyn sy'n bwysig i Airbus—a cheir dau fater i Airbus—yn gyntaf oll, yw eu bod nhw’n gallu gwerthu yn y farchnad sengl, nid yn unig heb rwystrau tariff, ond heb rwystrau di-dariff, neu rwystrau rheoliadol, hefyd, ac, yn ail, fisas gwaith. Bydd hi’n gwybod bod pobl sy'n teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Toulouse, Filton a Brychdyn bob dydd i weithio, ac mae Airbus yn ofni y gallai fod angen fisas gwaith ar y bobl hynny, naill ai ar gyfer pob ymweliad, neu efallai am gyfnod o amser yn y dyfodol, ac ni all hynny fod yn beth da o ran sefyllfa Brychdyn yng nghyswllt ei ddyfodol. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad oes angen fisas ar gyfer y gweithwyr hynny ac, yn ail, nad oes unrhyw dariffau, naill ai o ran rheoleiddio nac o ran arian, sy'n rhwystro mynediad llawn a dilyffethair Airbus at y farchnad sengl sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Prif Weinidog, rydych chi’n gwbl anghyson yn hyn o beth. [Torri ar draws.] Mae ASau Llafur yn defnyddio'r term 'aelodaeth o’r farchnad sengl'. Mae Chuka Umunna wedi dweud nad yw mynediad at y farchnad sengl yn mynd yn ddigon pell. Mae eich Ysgrifennydd masnach yr wrthblaid, Barry Gardiner, wedi sôn am aelodaeth ddiwygiedig o'r farchnad sengl—aelodaeth. Nawr, ceir goblygiadau i Airbus o'r ddau safbwynt hyn pan ddaw i ryddid i symud, ac i’n diwydiannau eraill hefyd. Unwaith eto, rydym ni’n gweld llu o safbwyntiau ar hyn y tu mewn i'r Blaid Lafur a rhwng canghennau Cymru a'r DU. Prif Weinidog, nawr bod y trafodaethau ffurfiol wedi cychwyn, beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau bod y cytundeb terfynol yn un sy'n gweithio i Gymru?
Byddaf yn gobeithio weithiau bod arweinydd Plaid Cymru yn gwrando ar fy ateb ac yna’n addasu'r cwestiwn y mae'n ei ofyn cyn iddi ei ofyn. Roedd hi'n fy nghyhuddo i o fod yn gwbl anghyson. Yn gyntaf, dywedodd wrthyf, 'Rydych chi wedi dweud nad ydych o blaid aelodaeth o'r UE', ac yna siaradodd am EFTA, sy’n sefydliad hollol wahanol, yn cynnwys tair gwlad: Norwy, Liechtenstein a Gwlad yr Iâ. Mae hi ei hun—mae ei phlaid eisoes wedi cytuno na allwch chi fod yn aelod o'r farchnad sengl heb fod yn aelod o'r UE. Dyna’r hyn a gytunwyd gennym ni, os yw hi’n cofio hynny. Mae hi'n fy nghyhuddo i o fod yn anghyson. Mae hi wedi anghofio hynny. Nid wyf i eisiau mynd i ddadl nad oes ei hangen rhwng dwy blaid sy’n cytuno ar yr un peth, sef ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod gan fusnesau Cymru fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Os ydych chi’n aelod ohoni, mae gennych chi lais yn ei rheolau. Ni allwch gael llais yn ei rheolau oni bai eich bod chi yn yr UE, ac mae’r mater hwnnw wedi ei ddatrys. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael y cytundeb gorau—mynediad llawn, dilyffethair at y farchnad sengl i fusnesau Cymru, fel y mae hi wedi cytuno iddo eisoes.
Rydym ni’n deall bod gwahaniaeth rhwng aelodaeth a mynediad, ond, cyn belled ag y mae busnesau Cymru yn y cwestiwn, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod hwnnw'n wahaniaeth anweledig, ein bod ni’n edrych ar fodelau eraill fel yr AEE, fel EFTA, yn enwedig yn y cyfnod pontio—gan na fydd cytundeb erbyn mis Mawrth 2019. Mae pawb yn deall hynny’n ddoeth. Mae'n drueni mawr, yn hytrach na chyfrannu at y ddadl, ei bod hi’n anghofio’r hyn y mae ei phlaid ei hun wedi cytuno iddo eisoes.
Mae hynna’n rwtsh llwyr.
Nid oeddech chi yno. Faint o leisiau?
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Rwy'n teimlo fel pe bawn i'n tarfu ar dipyn o ddadl deuluol yma, ac rydym ni’n gweld y glymblaid o anhrefn o flaen ein llygaid, credwch neu beidio. Pan—[Torri ar draws.] Gobeithio pan fyddwn ni’n cyrraedd eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma, y byddwch chi’n rhoi ychydig mwy o eglurder am y sefyllfa, Prif Weinidog, oherwydd os nad yw eich partneriaid yn ei deall, pa obaith sydd gan unrhyw arall o’i deall?
Ond hoffwn ddeall beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y targedau ar gyfer canlyniadau arholiadau PISA yn 2021, oherwydd dywedodd eich ysgrifennydd addysg, yng nghyfarfod y pwyllgor plant a phobl ifanc ddydd Iau diwethaf, nad y targed a osodwyd gan y Llywodraeth flaenorol a’ch Gweinidog—Gweinidog Llafur, Huw Lewis—o gael sgôr o 500 yn y tri chategori oedd ei tharged hi. A allwch chi roi rhywfaint o eglurder i ni o beth yw targed Llywodraeth Cymru ar gyfer canlyniadau PISA 2021?
Cyflawni 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir yn yr ystyr nad hi osododd y targed, gan nad oedd hi'n Weinidog ar y pryd, ond mae hi'n rhan o'r Llywodraeth sy'n cadw at y targed hwnnw. Ond cofiwch, un dangosydd diagnostig yw’r targed ymhlith llawer o rai eraill, fel perfformiad TGAU, cau'r bwlch cyrhaeddiad, categoreiddio ysgolion ac arolygiadau Estyn.
Mae hynna'n gerydd, er tegwch, Prif Weinidog, i’ch Ysgrifennydd Cabinet. Naill ai mae gennych chi darged y mae'r adran a'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio’n unol ag ef, ac y mae'r system addysg yma yng Nghymru yn gweithio yn unol ag ef—ac rydym ni’n croesawu'r targed, gan ei fod yn rhoi cyfeiriad teithio—ond mae'n ffaith, ddwywaith nawr, bod targed wedi cael ei ddiarddel gan Ysgrifenyddion Cabinet olynol ar addysg yma yn eich Llywodraeth: yn amlwg, targed Leighton Andrews o fod yn yr 20 uchaf erbyn 2015, ac yna ddydd Iau, cafodd y targed o gael 500 yn y tri chategori erbyn 2021 ei wadu gan Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf sut, yn y Llywodraeth ddi-drefn hon, y gall addysgwyr, rhieni a disgyblion fod ag unrhyw hyder y byddwn yn gweld y Llywodraeth hon yn cyrraedd y targed hwnnw erbyn 2021 ac yn cyflawni’r gwelliannau yr ydym ni eisiau eu gweld ym maes addysg?
Mae’r targed yn dal i fodoli. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn addysg. Ni fydd gennym ni ysgolion gramadeg yng Nghymru, ac ni fyddwn ychwaith yn lleihau gwariant ar addysg, fel y mae ei blaid ef wedi ei argymell ers blynyddoedd lawer.
Ai dyna’r cwbl? Ai dyna’r ateb—eich ateb llawn? Mae gennych chi chi yn dweud un peth—bod targed yn bodoli—ac mae gennych chi’r Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau o flaen pwyllgor craffu y Cynulliad hwn nad dyna ei tharged hi. Pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb am addysg yma yng Nghymru? A yw'n unrhyw syndod ei fod yn gymaint o draed moch o dan eich arweinyddiaeth chi? Unwaith eto, gofynnaf i chi: a wnewch chi ymrwymo i fap ffordd o sut y bydd y system addysg yma yng Nghymru yn cyrraedd eich targed yn 2021, neu uchelgais yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer ble mae hi eisiau i addysg fod? Ni allwch chi gael dau darged, Prif Weinidog.
Gadewch i mi ei ddweud am y trydydd tro: sicrhau 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad o ffaith nad hi oedd y Gweinidog ar yr adeg y gosodwyd y targed, ond y targed yw targed y Llywodraeth.
Mae'n sôn am glymblaid o anhrefn a thraed moch. Gwelaf fod Ruth Davidson, ei gydweithiwr yn yr Alban, yn cael mynd i gyfarfodydd Cabinet y Deyrnas Unedig; mae ef wedi ei wahardd. Mae ef wedi ei wahardd. Faint o gywilydd all un dyn ei gymryd? Fe’i disodlwyd yn nadleuon yr arweinwyr yn yr etholiad. Faint o gywilydd all un dyn ei gymryd? Gadawodd i Theresa May, a ddaeth i lansiad maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, ei wthio o’r neilltu, ei wahardd rhag dod i’r lansiad, cyn gwneud araith a drodd yr etholiad o’n plaid ni, sathru arno’n llwyr. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny. Pan fyddwn ni’n clywed yr ymadrodd 'traed moch', ni allwn dderbyn unrhyw wersi gan yr arbenigwyr sy'n eistedd ar y meinciau gyferbyn.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog, fel minnau, yn edrych gydag eiddigedd at yr Unoliaethwyr Democrataidd yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio eu grym yn Nhŷ'r Cyffredin i wasgu’r cytundeb gorau posibl er budd pobl Gogledd Iwerddon. Ac yn hytrach nag ymladd y rhyfel diwethaf eto, fel y mae’n ymddangos bod arweinydd Plaid Cymru yn benderfynol o’i wneud, oni fyddai'n well i aelodau Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin ddefnyddio eu sefyllfa ganolog i gael y cytundeb gorau posibl i Gymru trwy gynyddu maint ein grant bloc neu unrhyw un o'r pethau niferus yr ydym ni eu heisiau, a fyddai'n gwella bywydau pobl Cymru?
Ni fyddwn yn cynghori unrhyw blaid i wasgu arian, fel y dywedodd arweinydd UKIP, ond mae'n iawn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU wrando. Nid oes ganddi fandad ar gyfer y math o Brexit yr oedd yn dymuno ei gael. Methodd â chyflawni hynny yn yr etholiad, a nawr yw'r amser iddyn nhw wrando ar leisiau call fel y gellir cael Brexit synhwyrol sy'n gweithio i bobl Cymru, i bobl Prydain, ac i fusnesau a swyddi yn arbennig.
Wel, rwy'n siŵr y byddwn yn archwilio’r pwynt hwn ymhellach yn ddiweddarach y prynhawn yma yn y datganiad ar bapur y Llywodraeth ar Brexit.
Hoffwn symud ymlaen i fater arall. O ganlyniad i'r tân ofnadwy yn Kensington a’r colli bywyd ofnadwy a ddioddefwyd yno, onid yw hi braidd yn annymunol i arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn, geisio defnyddio’r mater hwn fel arf i ysgogi pobl i feddiannu eiddo preifat er mwyn cartrefu’r rheini a ddifeddiannwyd? Mae'n sefyllfa beryglus iawn i wleidyddion mewn swyddogaethau o gyfrifoldeb ddefnyddio pethau o'r fath. Rydym ni’n gwybod bod rhai aelodau pwysig o'r Blaid Lafur sy'n credu bod gwrthryfel yn arf gwleidyddol derbyniol. Mae John McDonnell wedi dweud sawl gwaith mai dim ond un dewis yw democratiaeth seneddol, ac mae’r llinellau piced a'r strydoedd yw’r mannau lle gellir ymladd y brwydrau gwleidyddol go iawn. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai'n hynod anffodus pe byddai’r Blaid Lafur yn parhau â'r math hwn o rethreg?
Rwy'n ofni bod arweinydd UKIP yn dangos diffyg trugaredd llwyr, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae pobl wedi marw yma. Mae pobl wedi marw. Aeth Jeremy Corbyn, fel AS dros yr ardal leol, i ymweld â phobl. Aeth i gysuro llawer o bobl a oedd yn etholwyr iddo, a mynegodd ddicter llawer a oedd yn teimlo, ar y pryd, nad oeddent yn cael digon o gymorth, pa un a oedd hynny gan lywodraeth leol neu Lywodraeth ganolog. Nid wyf yn gwneud unrhyw sylw ar hynny gan fy mod i’n meddwl, yr wythnos hon, ei bod hi’n hynod bwysig canolbwyntio ar y ffaith fod pobl wedi marw, a chanolbwyntio ar y ffaith ei bod yn hynod bwysig ein bod ni’n dysgu gwersi o'r hyn a ddigwyddodd, er mwyn gwneud yn siŵr bod nad yw’n digwydd eto. Dyna neges yr wythnos hon, nid pwynt gwleidyddol hawdd y mae e’n ceisio ei sgorio.
Wel, mae'n bell iawn o fod yn bwynt gwleidyddol hawdd. Roeddwn i’n dyfynnu o un o'n papurau newydd cenedlaethol—[Torri ar draws.]—lle cafwyd y pennawd
Gadewch i ddioddefwyr y tân atafaelu cartrefi gwag, meddai Corbyn.
Ef yw'r un a ddywedodd hynny. Nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad, yn amlwg, i Jeremy Corbyn fynegi barn pobl, yn enwedig barn ei etholwyr. Rydym ni i gyd yn gwneud hynny. Ond yn y sefyllfaoedd hynod emosiynol hyn, mae’n beryglus iawn i rethreg o'r math hwnnw gael ei ddefnyddio pan ddylid dymuno cael sobrwydd o ran y ffordd yr ydym ni’n mynegi ein hunain. Mae ceisio elwa’n wleidyddol ar hyn yn y ffordd honno, rwy’n meddwl, yn annymunol dros ben.
Mae'n iawn, yn wir, i ddweud bod angen sobrwydd. Mae'n drueni na ddilynodd ei gyngor ei hun, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae'n dyfynnu o bapur newydd cenedlaethol. Wel, fel y gwyddom, mae’r papurau bob amser yn gywir am bopeth, ac mae ganddo brofiad blaenorol o bethau o'r fath. Mae wedi camfarnu’n ddifrifol teimladau ein cenedl yng Nghymru a'r DU y prynhawn yma, rwy’n credu. Mae wedi camfarnu’n ddifrifol teimladau’r Siambr hon, rwy’n credu, ac mae’n rhaid iddo fyfyrio, fel rhywun sydd wedi bod mewn gwleidyddiaeth ers blynyddoedd lawer, ar y sylwadau y mae wedi eu gwneud, a myfyrio pa un a yw’r sylwadau y mae wedi eu gwneud mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r trugaredd yr ydym ni’n ei rannu yn y Siambr hon, oherwydd nid wyf yn credu eu bod nhw.