Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 20 Mehefin 2017.
Cyflawni 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir yn yr ystyr nad hi osododd y targed, gan nad oedd hi'n Weinidog ar y pryd, ond mae hi'n rhan o'r Llywodraeth sy'n cadw at y targed hwnnw. Ond cofiwch, un dangosydd diagnostig yw’r targed ymhlith llawer o rai eraill, fel perfformiad TGAU, cau'r bwlch cyrhaeddiad, categoreiddio ysgolion ac arolygiadau Estyn.