Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 20 Mehefin 2017.
Ai dyna’r cwbl? Ai dyna’r ateb—eich ateb llawn? Mae gennych chi chi yn dweud un peth—bod targed yn bodoli—ac mae gennych chi’r Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau o flaen pwyllgor craffu y Cynulliad hwn nad dyna ei tharged hi. Pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb am addysg yma yng Nghymru? A yw'n unrhyw syndod ei fod yn gymaint o draed moch o dan eich arweinyddiaeth chi? Unwaith eto, gofynnaf i chi: a wnewch chi ymrwymo i fap ffordd o sut y bydd y system addysg yma yng Nghymru yn cyrraedd eich targed yn 2021, neu uchelgais yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer ble mae hi eisiau i addysg fod? Ni allwch chi gael dau darged, Prif Weinidog.