<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ni fyddwn yn cynghori unrhyw blaid i wasgu arian, fel y dywedodd arweinydd UKIP, ond mae'n iawn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU wrando. Nid oes ganddi fandad ar gyfer y math o Brexit yr oedd yn dymuno ei gael. Methodd â chyflawni hynny yn yr etholiad, a nawr yw'r amser iddyn nhw wrando ar leisiau call fel y gellir cael Brexit synhwyrol sy'n gweithio i bobl Cymru, i bobl Prydain, ac i fusnesau a swyddi yn arbennig.