Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 20 Mehefin 2017.
Rwy'n ofni bod arweinydd UKIP yn dangos diffyg trugaredd llwyr, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae pobl wedi marw yma. Mae pobl wedi marw. Aeth Jeremy Corbyn, fel AS dros yr ardal leol, i ymweld â phobl. Aeth i gysuro llawer o bobl a oedd yn etholwyr iddo, a mynegodd ddicter llawer a oedd yn teimlo, ar y pryd, nad oeddent yn cael digon o gymorth, pa un a oedd hynny gan lywodraeth leol neu Lywodraeth ganolog. Nid wyf yn gwneud unrhyw sylw ar hynny gan fy mod i’n meddwl, yr wythnos hon, ei bod hi’n hynod bwysig canolbwyntio ar y ffaith fod pobl wedi marw, a chanolbwyntio ar y ffaith ei bod yn hynod bwysig ein bod ni’n dysgu gwersi o'r hyn a ddigwyddodd, er mwyn gwneud yn siŵr bod nad yw’n digwydd eto. Dyna neges yr wythnos hon, nid pwynt gwleidyddol hawdd y mae e’n ceisio ei sgorio.