Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 20 Mehefin 2017.
Mae'n iawn, yn wir, i ddweud bod angen sobrwydd. Mae'n drueni na ddilynodd ei gyngor ei hun, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae'n dyfynnu o bapur newydd cenedlaethol. Wel, fel y gwyddom, mae’r papurau bob amser yn gywir am bopeth, ac mae ganddo brofiad blaenorol o bethau o'r fath. Mae wedi camfarnu’n ddifrifol teimladau ein cenedl yng Nghymru a'r DU y prynhawn yma, rwy’n credu. Mae wedi camfarnu’n ddifrifol teimladau’r Siambr hon, rwy’n credu, ac mae’n rhaid iddo fyfyrio, fel rhywun sydd wedi bod mewn gwleidyddiaeth ers blynyddoedd lawer, ar y sylwadau y mae wedi eu gwneud, a myfyrio pa un a yw’r sylwadau y mae wedi eu gwneud mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r trugaredd yr ydym ni’n ei rannu yn y Siambr hon, oherwydd nid wyf yn credu eu bod nhw.