Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 20 Mehefin 2017.
Wel, mae’n rhaid bod yn ofalus, wrth gwrs, ynglŷn â cherfluniau, achos ein bod ni’n cael llawer o geisiadau ynglŷn â chefnogi cerfluniau ar draws Cymru, ac mae’n hollbwysig bod unrhyw gerflun â digon o gefnogaeth leol, er mwyn bod y cerflun hwnnw yn gallu symud ymlaen. Rydym ni’n deall pa mor bwysig yw pethau gweledol ynglŷn â rhoi neges i bobl, ac wrth gwrs roedd hynny’n wir ynglŷn â’r arddangosfa yng Nghastell Caernarfon, sef y ffenestr wylo—‘The Weeping Window’—a oedd yn dangos yn bwerus iawn beth oedd effaith y rhyfel byd cyntaf, nid dim ond ar y cymunedau lleol, ond ar y rheini a gafodd eu lladd yna.