Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 20 Mehefin 2017.
Mae ardaloedd dim galw diwahoddiad yn rhan ohono, ond, wrth gwrs, ni allant, yn naturiol, effeithio ar sgamiau sy'n dod i'r amlwg ar-lein neu dros y ffôn. Rwyf i wedi gweld awdurdodau lleol—mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un enghraifft—sy'n cynnal ymgyrchoedd llwyddiannus iawn trwy eu hadrannau safonau masnach i hysbysu pobl am sut y gall sgamiau edrych, a gallant fod yn effeithiol iawn, ac roedd yr ymgyrch honno’n effeithiol iawn. Gwelais hynny fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nawr, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd i weld beth allant ei wneud i amddiffyn pobl rhag sgamiau na ellir eu canfod, trwy ddulliau fel ardaloedd dim galw diwahoddiad.