1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2017.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru? OAQ(5)0665(FM)
Mae 'Symud Cymru Ymlaen' yn cynnwys amrywiaeth o gamau gweithredu i wella iechyd a llesiant pobl hŷn, gan ganolbwyntio ar ymyraethau amserol a gwaith partneriaeth effeithiol. Er enghraifft, rydym ni’n buddsoddi mewn mentrau i bobl hŷn gadw eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi drwy'r gronfa gofal integredig.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond un o'r pethau na wnaethoch chi sôn amdanynt oedd yr arwahanrwydd cynyddol a wynebwyd gan lawer o bobl hŷn yng Nghymru. Amcangyfrifir bod tua 75,000 o bobl hŷn ar draws y wlad yn unig iawn, a gall yr unigrwydd hwnnw gael yr un math o effaith ag ysmygu 15 sigarét y dydd ar iechyd pobl. Tybed a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi ymgyrch Age Cymru ar unigrwydd, ‘Ni ddylai neb fod heb neb'. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl fel Gill Stafford, o Abergele yn fy etholaeth i, sy’n wraig weddw, yn gofalu am ei mab anabl, ac a ddywedodd wrth Age Cymru ei bod yn mynd ar y bws dim ond er mwyn cael mynd allan a siarad â rhywun a chael sgwrs? Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i gynorthwyo pobl fel Gill a llawer o bobl eraill sy'n wynebu’r math hwnnw o arwahanrwydd ac unigrwydd?
Rydym ni’n ceisio gweithio gyda'r holl sefydliadau trydydd sector sy'n gwneud cymaint o waith i helpu pobl hŷn. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod arwahanrwydd ac unigrwydd yn broblem arbennig, yn enwedig yn y dyddiau hyn pan fo teuluoedd wedi symud i ffwrdd, ac mae’n cael effaith andwyol nid yn unig ar iechyd meddwl pobl, ond, mae'n ymddangos, ar eu hiechyd corfforol hefyd. Rydym ni eisiau gweithio gydag Age Cymru. Rwy’n cymeradwyo’r hyn y mae Age Cymru yn ei wneud i sicrhau bod arwahanrwydd, yn gyntaf, yn cael ei gydnabod fel problem, ac, yn ail, bod atebion yn cael eu canfod i'r broblem honno.
Un o'r pethau y gallwn ni ei wneud i wella bywydau pobl hŷn yw sicrhau bod ein strategaeth dementia yn uchelgeisiol ac wir yn newid bywydau. Fel y gwyddoch, mae Ysgrifennydd y Cabinet wrthi’n ystyried y nifer fawr iawn o ymatebion y mae'r Llywodraeth wedi eu cael ar hyn, ond rwy’n credu bod hwn yn sicr yn fater i'r Llywodraeth gyfan, yn enwedig gan fy mod i’n credu y bydd angen adnoddau ychwanegol arno er mwyn ei roi ar waith yn effeithiol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd hyn yn flaenoriaeth i chi, a phan fydd gennym ni’r strategaeth ddementia derfynol, y bydd mor weddnewidiol ag yr ydym ni oll eisiau ei weld?
Rydym ni wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wneud Cymru yn wlad ystyriol o ddementia, ac wrth gwrs i gyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol cenedlaethol cyntaf ar ddementia i Gymru. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd yn nodi’r camau allweddol ynghyd â mesurau uchelgeisiol i gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid allanol i gynorthwyo pobl a effeithir gan ddementia, ac, wrth gwrs, bydd angen, yn rhan o'r cynllun hwnnw, darparu'r adnoddau sy’n ofynnol i'w alluogi i lwyddo.
Prif Weinidog, mae llawer o'n pobl hŷn yn cael eu targedu ac yn dioddef wrth ddwylo sgamwyr, sy'n manteisio ar y ffaith eu bod yn agored i niwed i’w twyllo o’u cynilion bywyd. Cynorthwyais etholwr a oedd yn cael ei dargedu yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y cymorth gan Heddlu De Cymru yn rhagorol. Yn anffodus, nid yw pawb yn cael y cymorth hwn. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn ac addysgu pobl hŷn am y sgamiau, a sut i osgoi dioddef wrth ddwylo’r sgamwyr hyn?
Mae ardaloedd dim galw diwahoddiad yn rhan ohono, ond, wrth gwrs, ni allant, yn naturiol, effeithio ar sgamiau sy'n dod i'r amlwg ar-lein neu dros y ffôn. Rwyf i wedi gweld awdurdodau lleol—mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un enghraifft—sy'n cynnal ymgyrchoedd llwyddiannus iawn trwy eu hadrannau safonau masnach i hysbysu pobl am sut y gall sgamiau edrych, a gallant fod yn effeithiol iawn, ac roedd yr ymgyrch honno’n effeithiol iawn. Gwelais hynny fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nawr, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd i weld beth allant ei wneud i amddiffyn pobl rhag sgamiau na ellir eu canfod, trwy ddulliau fel ardaloedd dim galw diwahoddiad.