Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 20 Mehefin 2017.
Cryno dros ben, diolch. Prif Weinidog, efallai eich bod chi’n ymwybodol bod Prif Weinidog Gogledd Iwerddon o blaid diddymu tollau teithwyr awyr i helpu teithwyr awyr i gefnogi twf, swyddi a thorri costau busnesau. O ystyried bod Llywodraeth yr Alban bellach wedi defnyddio ei phŵer datganoledig newydd a chyflwyno ei Bil Treth Ymadael (Yr Alban), i ddisodli’r doll teithwyr awyr, ac wedi ymrwymo i’w leihau o 2018, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod y doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli, ac ar ôl iddi gael ei datganoli, beth fyddwch chi’n ei wneud â hi?