Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 20 Mehefin 2017.
Nid yw Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn ei swydd, ar hyn o bryd—yn fuan gobeithio—ond does bosib nad yw’n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi dadlau hyd at syrffed iddo gael ei ddatganoli. Nid oes unrhyw reswm pam y dylai gael ei ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon, ei ddatganoli yn yr Alban, ond peidio â chael ei ddatganoli yng Nghymru. Beth fyddem ni'n ei wneud ag ef? Byddem ni’n sicr yn ystyried lleihau neu gael gwared arno ar gyfer teithiau hir, oherwydd gwyddom fod Maes Awyr Caerdydd mewn sefyllfa arbennig o dda ar gyfer teithiau teithwyr pell. Ond mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod yn llwyr ei ddatganoli i ni, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi ei ddatganoli i'r Alban. Nid oes unrhyw reswm am hyn, nid oes unrhyw sail resymegol i hyn, nid oes unrhyw degwch yn hyn, ac, yn sicr, mae'n rhywbeth nad yw'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon wedi bod yn arbennig o groch amdano yn ystod yr ychydig wythnosau neu fisoedd diwethaf.