<p>Darpariaeth Oncoleg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ni fydd unrhyw gwestiwn o bobl yn peidio â chael cynnig triniaeth mewn un rhan o Gymru os yw ar gael mewn rhannau eraill o Gymru drwy’r gronfa driniaeth newydd. Dyna y bwriedir i’r gronfa gael gwared arno—y loteri cod post. Mae’r gwaith o gyflwyno’r gronfa yn mynd rhagddo yn dda, ond nid yw mor gyson ag yr wyf yn dymuno iddo fod ar hyn o bryd. Rhoddwyd cyfarwyddiadau gan Ysgrifennydd y Cabinet i'r byrddau iechyd ei fod yn disgwyl i'r sefyllfa fod yn gyson, yn sicr erbyn diwedd yr haf, ac yna byddwn ar y pwynt lle bydd y loteri cod post wedi cael ei ddileu yn gyfan gwbl. Mae ar y ffordd i hynny digwydd nawr, ond dywedwyd wrth y byrddau iechyd yn eglur iawn bod hyn yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn sicrhau ei fod yn cael ei wneud.