Part of 10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am hynny. Nid oes gennyf unrhyw awydd i fynd drwy’r rhan fwyaf o'r gwelliannau hyn chwaith, oherwydd, fel y mae fy mhrif chwip wedi dweud, mae'n heulog y tu allan ac nid ydym yn awyddus i fod yma tan yr oriau tywyll. Fodd bynnag, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi pob un o'r gwelliannau hyn, ar wahân i—mae gennym broblem gyda'r gwelliant cyntaf, y prif welliant, ac efallai y gallwch ddarparu eglurhad ar hyn.
Mae’r prif welliant yn cyfeirio at y cyfnod hwyaf a bennwyd yn yr hysbysiad sy'n dynodi'r fan dan adran 54 (3). Fodd bynnag, nid yw gweddill adran 54 yn cyfeirio at uchafswm cyfnodau o rybudd. Mae hyn yn ymddangos i wneud y cyfeirio yn fwy cymhleth, i mi, a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ar y rheswm am hyn—mae'n ymddangos i fod yn anghywir, o ystyried bod y gwelliannau eraill yn ymddangos i fod yn eithaf derbyniol.