Part of 10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 20 Mehefin 2017.
Fy nealltwriaeth i yw bod y gwelliant y mae Nick Ramsay yn cyfeirio ato yn un sy'n sicrhau croesgyfeirio cywir yn y Bil. Bydd man nad yw at ddibenion gwaredu yr ymdrinnir ag o yng ngwelliannau 3 a 25 yn cael ei ddynodi drwy gyfrwng hysbysiad a roddir dan adran 54. Nid wyf yn credu bod anghysondeb yn y Bil o ganlyniad. Rwy'n hapus iawn, wrth gwrs, ar ôl heddiw i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ymateb yn fwy manwl at y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud ac i gymryd unrhyw gamau, os oes angen unrhyw gamau, ond nid wyf yn credu y bydd.