Part of 10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 20 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech yn dweud ar welliant 18 eich bod yn cymryd pŵer ehangach, drwy reoliad, i addasu darpariaethau sy'n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd. Roeddwn i eisiau gofyn i chi: oeddech chi'n rhagweld defnyddio hwn mewn perthynas â'r mater pan fydd y deunydd yn cael ei bwyso—mater a drafodwyd gennym yng Nghyfnod 1—gan fod y Bil cychwynnol, yn adran 20, yn dweud bod
Rhaid i weithredydd safle tirlenwi awdurdodedig benderfynu pwysau'r deunydd mewn gwarediad trethadwy cyn i’r gwarediad gael ei wneud?
Pan ymwelodd y pwyllgor Cyllid â safle Lamby Way, darganfyddwyd mai’r arfer yno oedd pwyso’r deunydd ar y lori lwythog wrth iddi fynd i mewn ac yna pwyso'r lori wag ar y ffordd allan, y gwahaniaeth wedyn oedd yn pennu’r pwysau. Nawr bod y gwelliannau yng Nghyfnod 2 wedi cael eu gwneud, yn 20 (2) (a) dywedir
Bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn gwneud y gwaredu.
Allwch chi egluro eich bod yn gweld hynny yn gyson â'r arfer a welsom yn Lamby Way, a bod pwyso’r deunydd yn y lori a dim ond wedyn ei benderfynu wrth gymharu hynny â phwysau’r lori wag yn unol â'r Bil fel y mae yn awr, neu a ydych chi’n ystyried y gallai fod angen defnyddio pŵer rheoleiddio hwnnw yn y dyfodol i amrywio hwnnw?