10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 20 Mehefin 2017.
Grŵp 5 yw pwysau trethadwy deunydd a'r prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 13. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae pob un o'r tri grŵp nesaf, Dirprwy Lywydd, yn ymdrin â mater sydd yn gymharol gul mewn bwriad, ond ym mhob achos yn edrych i ddod ag eglurder neu degwch ychwanegol i drethdalwyr. Yn y grŵp hwn, mae tri phrif welliant—gwelliannau 13, 16 a 18—sy'n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy.
Mae gwelliant 13 yn diwygio adran 18 o'r Bil. Lle mae'r gweithredydd neu Awdurdod Cyllid Cymru, neu'r ddau ohonynt, yn cyfrif pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy, mae darpariaeth adran 18 a ddiwygiwyd yn nodi pa un o'r cyfrifiadau hynny fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o dreth a godir ar y gwarediad. Mae'r gwelliant hwn yn rhoi mwy o eglurder i'r trethdalwr, yn enwedig lle mae’r gweithredwr ac Awdurdod Cyllid Cymru yn cyfrifo'r pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy.
Dirprwy Lywydd, o ganlyniad i adolygu'r darpariaethau mewn perthynas â phwysau trethadwy deunydd, a gynhaliwyd yng ngoleuni'r trafodaethau ar y pwnc hwn yn ystod camau cynharach yn y Bil, rydym wedi cyflwyno gwelliant 16 i gael gwared ar y pŵer i wneud rheoliadau cyfredol mewn perthynas â disgownt dŵr, ac yn ei le gyflwyno pŵer i wneud rheoliadau ehangach trwy welliant 18. Bydd pŵer o'r fath yn sicrhau y gall profiad gweithredol, newidiadau polisi neu newidiadau yn y dyfodol yn y dechnoleg yn y maes hwn gael eu hadlewyrchu yn y ddeddfwriaeth.
Mae gwelliant 15 yn y grŵp yn welliant technegol arall sy'n sicrhau y gall Awdurdod Cyllid Cymru bennu naill ai ffurf cofnod disgownt dŵr neu wybodaeth sydd ei hangen ynddo, heb gael eu gorfodi i wneud y ddau. Gofynnaf i Aelodau gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech yn dweud ar welliant 18 eich bod yn cymryd pŵer ehangach, drwy reoliad, i addasu darpariaethau sy'n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd. Roeddwn i eisiau gofyn i chi: oeddech chi'n rhagweld defnyddio hwn mewn perthynas â'r mater pan fydd y deunydd yn cael ei bwyso—mater a drafodwyd gennym yng Nghyfnod 1—gan fod y Bil cychwynnol, yn adran 20, yn dweud bod
Rhaid i weithredydd safle tirlenwi awdurdodedig benderfynu pwysau'r deunydd mewn gwarediad trethadwy cyn i’r gwarediad gael ei wneud?
Pan ymwelodd y pwyllgor Cyllid â safle Lamby Way, darganfyddwyd mai’r arfer yno oedd pwyso’r deunydd ar y lori lwythog wrth iddi fynd i mewn ac yna pwyso'r lori wag ar y ffordd allan, y gwahaniaeth wedyn oedd yn pennu’r pwysau. Nawr bod y gwelliannau yng Nghyfnod 2 wedi cael eu gwneud, yn 20 (2) (a) dywedir
Bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn gwneud y gwaredu.
Allwch chi egluro eich bod yn gweld hynny yn gyson â'r arfer a welsom yn Lamby Way, a bod pwyso’r deunydd yn y lori a dim ond wedyn ei benderfynu wrth gymharu hynny â phwysau’r lori wag yn unol â'r Bil fel y mae yn awr, neu a ydych chi’n ystyried y gallai fod angen defnyddio pŵer rheoleiddio hwnnw yn y dyfodol i amrywio hwnnw?
Gwn pan oedd Mark Reckless yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, ei fod wedi cymryd diddordeb arbennig yn y mater o pryd y dylai pwysau gwarediad trethadwy gael ei nodi, ac yn wir mewn darpariaethau dŵr, a sut y dylem wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hadlewyrchu yn effeithiol yn y Bil, a chafodd gwelliannau eu cynnig yn ystod Cyfnod 2 i ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth mewn trafodaethau cynharach. Felly, mae’r ffordd y mae'r Bil, fel y'i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2, yn ymdrin â phryd y dylai deunydd gael ei bwyso yn awr yn gyson â'r hyn a welodd aelodau'r Pwyllgor Cyllid pan oeddent yn Lamby Way. Felly nid wyf yn rhagweld y byddai angen y pŵer hwn i wneud rheoliadau ar unwaith i ymateb i hynny. Ond fel y clywodd aelodau o'r pwyllgor yn ystod yr ymweliad hwnnw ac oddi wrth dystion arbenigol eraill, mae technoleg yn y maes hwn yn newid drwy'r amser ac efallai y bydd rhai dulliau eraill, mwy cywir o bwyso deunydd sy’n mynd i safleoedd tirlenwi yn cael eu dyfeisio yn y dyfodol, a byddai’r pŵer hwn i wneud rheoliadau yn caniatáu i Weinidogion wneud yn siŵr y byddai'r ffordd y mae'r gyfraith yn gweithio yng Nghymru yn gyson â'r arfer gorau yn y maes. Dyna pam ein bod yn gobeithio mynd â’r gwelliant drwy'r Cynulliad y prynhawn yma.
Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 13 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 13 ei dderbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 14.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 14 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 14 ei dderbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 15.
Cynnig.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 15 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddwn yn symud ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, caiff y gwelliant ei dderbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 16.
Cynnig, Cadeirydd.
Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 16 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 16 ei dderbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 17.
Cynnig.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 17 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 17 ei dderbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 18.
Cynnig.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 18 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 18 ei dderbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 19.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 19 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 19 ei dderbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 20.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 20 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 20 ei dderbyn.