<p>Grŵp 8: Gweinidogion Cymru yn arfer Pwerau a Dyletswyddau o Dan y Ddeddf hon (Gwelliant 49)</p>

Part of 10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 6:56, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n cynnig yn ffurfiol. Mae gwelliant 49 yn rhoi amcan datganedig ar wyneb y Bil hwn, sef lleihau swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. O'i gyflwyno, mae’r Bil hwn wedi cael ei ddisgrifio fel un sydd â diben amgylcheddol yn hytrach nag un ariannol. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud mai bwriad y Bil yw helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o Gymru ddiwastraff—nod yr ydym yn ei rannu. Gall fod yn anarferol i dreth gael ei dibenion cyllidol a pholisi yn gysylltiedig yn y modd hwn, ond yn yr achos hwn mae'r dreth yn ymwneud yn fwy â’r effaith a gaiff ar ymddygiad y cyhoedd na’r arian y bydd yn ei godi. Felly, rydym yn credu ei bod yn briodol i amcan polisi’r dreth hon gael ei ymgorffori ar wyneb y Bil.

Fel y dywedodd Aelodau eraill yn ystod y craffu ar y Bil hwn yn ystod y cam pwyllgor, mae treth gwarediadau tirlenwi yn anarferol oherwydd ei bod yn ceisio bod yn llai buddiol yn ariannol dros gyfnod o amser, ac oherwydd y dylai’r dreth hon leihau swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, bydd y swm o arian a godir hefyd yn lleihau. Mae'n bosibl ar ryw bwynt ragweld adeg pan all cost gweinyddu'r dreth hon fod yn fwy na'r refeniw a godir, ond mae'n hanfodol na roddir y gorau i’r dreth ar y pwynt hwn. Byddai hynny'n cael yr effaith groes o ail-gymell tirlenwi ac o bosibl ddadwneud y cynnydd amgylcheddol yr ydym yn gobeithio ei wneud.

Pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt lle mae angen ail-werthuso'r dreth hon, rhaid i’w diben polisi barhau i fod yn ganolog i'r ail-werthuso. Rwy'n deall y gall fod eithriadau mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, felly mae gwelliant 49 yn cynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru roi sylw i faterion eraill y maent yn credu sy'n briodol wrth arfer eu pwerau o dan y Bil, yn ogystal, wrth gwrs, â'r amcan amgylcheddol sylfaenol. Trwy sicrhau bod yr amcan amgylcheddol yn cael ei gadw ar wyneb y Bil, gallwn fod yn sicr y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn parhau i gael amcan amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol. Mae'n bwysig diogelu’r ddeddfwriaeth hon at y dyfodol, fel y bydd yn ofynnol i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol a allai geisio rhoi'r gorau i'r amcan amgylcheddol newid y gyfraith a chymeradwyaeth Senedd Cymru er mwyn gwneud hynny.