10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 20 Mehefin 2017.
We move to group 8. The next group relates to Welsh Ministers’ exercise of powers and duties under this Act. The lead and only amendment in this group is amendment 49. I call on Steffan Lewis to move and speak to the amendment. Steffan.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n cynnig yn ffurfiol. Mae gwelliant 49 yn rhoi amcan datganedig ar wyneb y Bil hwn, sef lleihau swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. O'i gyflwyno, mae’r Bil hwn wedi cael ei ddisgrifio fel un sydd â diben amgylcheddol yn hytrach nag un ariannol. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud mai bwriad y Bil yw helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o Gymru ddiwastraff—nod yr ydym yn ei rannu. Gall fod yn anarferol i dreth gael ei dibenion cyllidol a pholisi yn gysylltiedig yn y modd hwn, ond yn yr achos hwn mae'r dreth yn ymwneud yn fwy â’r effaith a gaiff ar ymddygiad y cyhoedd na’r arian y bydd yn ei godi. Felly, rydym yn credu ei bod yn briodol i amcan polisi’r dreth hon gael ei ymgorffori ar wyneb y Bil.
Fel y dywedodd Aelodau eraill yn ystod y craffu ar y Bil hwn yn ystod y cam pwyllgor, mae treth gwarediadau tirlenwi yn anarferol oherwydd ei bod yn ceisio bod yn llai buddiol yn ariannol dros gyfnod o amser, ac oherwydd y dylai’r dreth hon leihau swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, bydd y swm o arian a godir hefyd yn lleihau. Mae'n bosibl ar ryw bwynt ragweld adeg pan all cost gweinyddu'r dreth hon fod yn fwy na'r refeniw a godir, ond mae'n hanfodol na roddir y gorau i’r dreth ar y pwynt hwn. Byddai hynny'n cael yr effaith groes o ail-gymell tirlenwi ac o bosibl ddadwneud y cynnydd amgylcheddol yr ydym yn gobeithio ei wneud.
Pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt lle mae angen ail-werthuso'r dreth hon, rhaid i’w diben polisi barhau i fod yn ganolog i'r ail-werthuso. Rwy'n deall y gall fod eithriadau mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, felly mae gwelliant 49 yn cynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru roi sylw i faterion eraill y maent yn credu sy'n briodol wrth arfer eu pwerau o dan y Bil, yn ogystal, wrth gwrs, â'r amcan amgylcheddol sylfaenol. Trwy sicrhau bod yr amcan amgylcheddol yn cael ei gadw ar wyneb y Bil, gallwn fod yn sicr y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn parhau i gael amcan amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol. Mae'n bwysig diogelu’r ddeddfwriaeth hon at y dyfodol, fel y bydd yn ofynnol i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol a allai geisio rhoi'r gorau i'r amcan amgylcheddol newid y gyfraith a chymeradwyaeth Senedd Cymru er mwyn gwneud hynny.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gwelliant hwn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae Steffan Lewis—byddwn yn dweud yn anfwriadol, ond mae'n debyg yn fwriadol—wedi taro ar agwedd ddiddorol â'r ffordd yr aeth y dreth hon yn ei blaen yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2. Cawsom drafodaethau am y cydbwysedd hwnnw, y cydbwysedd pwysig iawn rhwng cael treth sydd yno i godi arian, ac rydym yn gwybod ein bod ni'n mynd i golli arian o'r grant bloc pan fydd y dreth hon wedi'i datganoli, felly dyna ei phrif amcan, o’i chymharu ag agwedd amgylcheddol y dreth, yr oedd eraill yn dadlau yw'r prif nod. Nid oeddwn yn gwbl hyderus yn y trafodaethau Cyfnod 2 a wnaethom ein bod yn hollol glir ynghylch ble’r oedd y cydbwysedd hwnnw’n gorwedd. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedasoch, Steffan, fod hon yn bennaf yn dreth amgylcheddol ac felly dylai ei swyddogaeth o ran lleihau tirlenwi yn y dyfodol gael ei diogelu ar bob cyfrif. Byddaf yn ildio i Mike Hedges.
Pan gafodd ei chyflwyno yn gyntaf fel treth dirlenwi, y rheswm oedd atal awdurdodau lleol rhag dympio yn unig, i'w gwneud yn aneconomaidd yn ymarferol iddynt i ddim ond dympio, ac mae'r gost ychwanegol yn golygu bod pobl yn dechrau ailgylchu, ac mae wedi cael effaith fawr ar ailgylchu. Felly, pan gafodd ei chyflwyno yn gyntaf dan Lywodraeth San Steffan, y nod oedd, bron yn gyfan gwbl, ceisio newid arferion.
Ie, rydych yn hollol gywir. Pan gafodd treth y DU ei chyflwyno, dyna oedd y rheswm. Ond, wrth gwrs, mae hon yn dreth ddatganoledig ac rydym yn colli arian drwy'r grant bloc ar ôl ei datganoli. Felly, dros gyfnod o amser, gan fod y dreth yn lleihau, yna, yn amlwg, byddai’r swm hwnnw yn lleihau. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw hynny yn digwydd ar lefel y DU. Yn amlwg, mae gostyngiad yn y dreth, ond mae gennym—. A'r rheswm dros siarad ar y gwelliant hwn yw oherwydd dydw i ddim yn dweud ein bod yn gwrthwynebu hyn mewn unrhyw ffordd, Steffan Lewis, ond rydym yn credu ei fod yn codi nifer o faterion diddorol am y ffordd y mae treth ddatganoledig yn gweithredu, a'r ffordd y gallai Llywodraeth yn y dyfodol geisio ei defnyddio. Mae goblygiad refeniw i hyn, a Bil treth yw hwn yn bennaf. Nid Bil amgylcheddol yn bennaf. Rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol, wrth symud ymlaen, pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno trethi yn y dyfodol—gan fod gennych yr hawl i ddatblygu eich trethi eu hunain yn Llywodraeth Cymru, yn annibynnol ar y rheini; rydym yn gwybod bod hynny'n rhan o'r setliad presennol—bod y mathau hyn o faterion yn cael eu datrys yn y dyfodol. Ond rydym yn barod i gefnogi'r gwelliant hwn.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Bydd Aelodau eraill wedi cael blas bach o ddadl ehangach sydd wedi mynd ymlaen yn y Pwyllgor Cyllid byth ers i’r Bil hwn gael ei gyflwyno gyntaf. Mae'n Fil, am wn i, y byddwn yn ei ddisgrifio fel Bil treth gyda phwrpas amgylcheddol wrth ei wraidd.
Cyflwynodd Steffan Lewis welliant i'r perwyl hwn yng Nghyfnod 2. Dywedais ar y pryd bod rhai materion technegol a chyfreithiol gyda’i ddrafftio, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Steffan Lewis am y sgyrsiau adeiladol a defnyddiol yr ydym wedi eu cael rhwng Cyfnodau 2 a 3, ac mae'r gwelliant o flaen y Cynulliad y prynhawn yma yn un y mae ochr y Llywodraeth yn barod iawn i’w gefnogi.
Fel y clywsoch gan Steffan, bydd y gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth arfer pwerau a dyletswyddau o dan y Ddeddf, i ystyried yr amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd statudol felly, sy'n sicrhau bod hwn yn ymrwymiad cadarn sydd ar waith ar gyfer hyn, a Llywodraethau'r dyfodol. Mae cynnwys isadran (1) (b) yn bwysig oherwydd ei fod yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi sylw i faterion eraill, sydd, mewn setiau cymharol gyfyngedig o amgylchiadau, yn bwysig. Rydym yn falch iawn i gefnogi gwelliant 49, yr wyf yn gobeithio sy’n arddangosiad ymarferol o'r hyn a ddywedodd Simon Thomas yn gynharach pan soniodd am yr ysbryd o gydweithio sydd wedi nodweddu datblygiad y darn hwn o ddeddfwriaeth.
Dirprwy Lywydd, yn yr ysbryd hwnnw, roeddwn eisiau cofnodi canlyniadau cyfres arall o sgyrsiau sydd wedi mynd ymlaen rhwng Cyfnod 2 a Chyfnod 3. Yng Nghyfnod 2, cynigiodd Nick Ramsay set o welliannau mewn perthynas ag adolygiad o’r dreth hon. Rydym wedi llwyddo i gael trafodaethau pellach gyda Steffan Lewis a Nick Ramsay rhwng Cyfnod 2 a Chyfnod 3. O ganlyniad, rwyf eisiau cofnodi ein cytundeb y dylid cynnal adolygiad annibynnol tebyg o dreth gwarediadau tirlenwi fel y cytunwyd yn y cyd-destun treth trafodiadau tir, ond dylid cynnal adolygiad annibynnol sy'n cwmpasu pob rhan o'r dreth, gan gynnwys y gwarediadau newydd heb awdurdod a'r cynllun cymunedau, ac y dylem gynnal yr adolygiad annibynnol i'r un amserlen ag a gytunwyd ar gyfer Deddf Treth Trafodiadau Tir. Rwy'n credu bod y set honno o gytundebau yn gyfraniad pwysig arall i sicrhau bod y dreth hon yn gadarn iawn; mae'n adlewyrchu'r cytundebau yr ydym wedi’u cyrraedd yn ystod y cyfnod rhwng Cyfnodau 2 a 3, ac rwy'n falch o gael y cyfle i'w rhoi ar y cofnod y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n galw ar Steffan Lewis i ymateb i'r ddadl. Na? Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 49 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 49 ei dderbyn.