Part of 10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:59 pm ar 20 Mehefin 2017.
Pan gafodd ei chyflwyno yn gyntaf fel treth dirlenwi, y rheswm oedd atal awdurdodau lleol rhag dympio yn unig, i'w gwneud yn aneconomaidd yn ymarferol iddynt i ddim ond dympio, ac mae'r gost ychwanegol yn golygu bod pobl yn dechrau ailgylchu, ac mae wedi cael effaith fawr ar ailgylchu. Felly, pan gafodd ei chyflwyno yn gyntaf dan Lywodraeth San Steffan, y nod oedd, bron yn gyfan gwbl, ceisio newid arferion.