– Senedd Cymru am 2:17 pm ar 20 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Ceir sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i drefnu cynnig i neilltuo Cadeiryddion pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol yn syth ar ôl y datganiad busnes. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad wedyn ar ddiogelwch rhag tân yng Nghymru, y camau sy'n cael eu cymryd yn dilyn tân Tŵr Grenfell. Wedi hynny, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar 'Brexit a Datganoli: Sicrhau Dyfodol Cymru'. Mae'r Pwyllgor Busnes hefyd wedi trefnu dau gynnig yfory i geisio cytundeb y Cynulliad ar weithdrefnau cyllid wedi’u diweddaru a phrotocol cyllideb newydd. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir yn y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Prynhawn da, arweinydd y tŷ. A gaf i ofyn i chi ymbil ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ddod â'r datganiad yn ôl i'r Siambr ar nyrsys ysgol a ohiriwyd bythefnos yn ôl? Mae nyrsys ysgol yn chwarae rhan bwysig yn ysgolion Cymru, nid dim ond o ran ymdrin â mân anafiadau, ond hefyd drwy gynnig cyngor bugeiliol a gwybodaeth iechyd gyffredinol. Roedd nifer o weithwyr proffesiynol yn awyddus i ddarganfod cynnwys y datganiad hwn ac felly hefyd llawer o Aelodau'r Cynulliad. Mae'n fater hollbwysig. Rydym ni’n gwybod sut mae llawer o'n pobl ifanc yn dioddef â phroblemau iechyd meddwl, yn dioddef a materion fel gordewdra, a byddai gallu deall yn eglur sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi swyddogaeth nyrsys ysgol o ddefnydd i bob un ohonom ni. Byddai'n well gennyf i hwn, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ, fod yn ddatganiad llafar os yn bosibl, gan fy mod i’r credu fod hwn yn fater sy’n llwyr haeddu dadl.
Diolch yn fawr iawn, Angela Burns. Wrth gwrs, mae cydnabyddiaeth a chymeradwyaeth wedi ei rannu ar draws y Siambr hon, rwy’n credu, o’r swyddogaeth a'r cyfraniad y mae nyrsys ysgol yn ei wneud ledled Cymru ar bob lefel, o ran atal, ac iechyd a llesiant ein plant a'n pobl ifanc. Yn sicr, gwn y bydd cyfle i ddechrau, rwy'n siŵr, gyda chwestiynau yfory i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ond yn amlwg mae hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ystyried o ran cyfleoedd pellach.
Cynhaliais ddigwyddiad gofalwyr ifanc yn y Senedd ddydd Sadwrn, lle’r oedd presenoldeb da, yn bennaf o blith gofalwyr ifanc o bob rhan o Gaerdydd. Gwn eu bod nhw wedi dweud wrthyf yno eich bod chi’n gweithio ar system cerdyn fel y gall gofalwyr ifanc nodi mewn ysgolion neu mewn lleoliadau cymdeithasol eu bod yn ofalwr, fel y gallant gael triniaeth sy'n sensitif i'r hyn sydd ei angen arnynt. Ond, soniodd bron pob un o'r gofalwyr ifanc y siaradais â nhw am y ffaith os oes angen iddyn nhw gasglu presgripsiwn a’u bod nhw’n iau nag 16 oed, mewn sefyllfa frys—. Un o'r merched a oedd yno, mae ei thad yn seicotig ac roedd angen iddo gael meddyginiaeth ar frys, ond gwrthodwyd iddi gael y feddyginiaeth gan ei bod yn iau nag 16 oed. Dywedodd llawer ohonynt wrthyf eu bod yn teimlo nad oeddent yn cael eu parchu gan nad oeddent yn cael casglu’r feddyginiaeth. Nid oedden nhw eisiau ei defnyddio am unrhyw reswm arall, ac eithrio ei rhoi i'w hanwyliaid. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru ystyried hyn a dod â datganiad yn ôl, i edrych a oes ffyrdd o fod yn fwy hyblyg ar gyfer y gofalwyr ifanc hynny sydd angen gwneud hyn am resymau gwirioneddol, ac i geisio cyfathrebu â nhw ynghylch yr hyn yr ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth, yn gyffredinol, dros ofalwyr ifanc yng Nghymru.
Mae Bethan Jenkins yn dod â phwynt pwysig iawn i'r Cynulliad y prynhawn yma o ran, rwy'n siŵr, pob un ohonom ni’n ymgysylltu ac yn cydnabod swyddogaeth gofalwyr wrth i ni edrych ar Wythnos y Gofalwyr. Ond, yn benodol, rydych chi’n canolbwyntio ar ofalwyr ifanc ac, wrth gwrs, mae eu hanghenion nhw’n gudd mor aml ac nid ydynt yn cael eu deall oni bai ein bod ni’n cael yr ymgysylltiad, nid yn unig ymgysylltiad gweithredol ysgolion—. Ac, yn wir, rydym ni eisoes wedi myfyrio ar swyddogaeth nyrsys ysgol, sydd yn berthnasol iawn, rwy’n meddwl, hefyd i’r pwynt yr ydych chi’n ei wneud yn enwedig o ran y cyfrifoldebau sydd gan y gofalwyr ifanc. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog priodol o ran rhoi ystyriaeth i’r pwyntiau hynny.
Mae pobl wedi cael eu harswydo gan dân Tŵr Grenfell a methiant Llywodraeth leol a chanolog i sicrhau bod rheolaeth adeiladu ar waith. Roeddwn i’n meddwl tybed a allai'r Llywodraeth wneud datganiad ar sut y gallem ni adfer pwerau llywodraeth leol i allu archwilio pob adeilad newydd yn effeithiol, a rhai wedi’u hailwampio yn wir, er mwyn sicrhau eu bod yn addas i bobl fyw ynddynt, gan fod awdurdodau lleol wedi colli’r adnoddau a'r arbenigedd yn llwyr. Ac rwy’n arbennig o bryderus y gall contractwyr benodi eu harolygwyr adeiladu eu hunain o restr gymeradwy erbyn hyn, gan fod hynny’n amlwg yn agor cyfleoedd enfawr i anonestrwydd, a cheir llawer o achosion, mae gen i ofn, yr wyf i wedi clywed amdanynt yng Nghaerdydd lle nad yw adeiladau’n bodloni’r safon a hysbysebwyd ar eu cyfer.
Wel, yn amlwg, mae Jenny Rathbone yn codi pwynt pwysig iawn, y gwn y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet nid yn unig yn rhoi sylw iddynt, ond bydd cwestiynau pellach yn ei ddatganiad o ran, nid yn unig camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn tân trasig Tŵr Grenfell, ond hefyd o ran yr adolygiadau y bydd yn rhaid eu cynnal ac, yn wir, cwmpas yr ymchwiliad cyhoeddus, sy'n cael ei lansio. Ond mae'n bwysig eich bod chi wedi codi'r pwynt heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar sefydlu tîm criced Cymru? Mae'n stori tylwyth teg a ddigwyddodd y penwythnos diwethaf. Ddydd Sul, enillodd dîm criced Pacistan, a oedd y tîm criced yn y safle isaf yn y byd, gwpan y byd ac roedd cryn dalentau. Daeth y bechgyn o ran anghysbell o'r wlad; nid oedd neb wedi clywed amdanyn nhw; doedden nhw ddim yn gyfarwydd â daear nac amodau Prydain na’r tywydd neu beth bynnag oedd hi. Ond collasant y gêm gyntaf ac wedyn fe wnaethon nhw guro India, De Affrica a phrif wledydd eraill y byd. Fe wnaethon nhw ennill y gystadleuaeth. Rwy’n meddwl os yw’r Alban, Iwerddon a gwledydd eraill yn cymryd rhan yn Twenty20 yr ICC a Chwpan Criced y Byd yr ICC, pam na allwn ni, Cymru? Rwy’n credu bod yr amser wedi dod i Gymru gael ei thîm criced ei hun i gystadlu ar lwyfan y byd. Mae angen i ni ehangu'r llwybr i chwaraewyr Cymru chwarae criced rhyngwladol. Yn fy marn i, byddai chwaraewyr o Gymru yn camu ar y maes i chwarae criced rhyngwladol dros Gymru o’r budd pennaf i’r gamp yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn, os gwelwch yn dda?
Wel, rwy’n meddwl bod gan Mohammad Asghar gryn dipyn o gefnogaeth ar draws y Siambr hon i ddatganiad ar griced i Gymru, felly byddaf yn gweld beth y gallaf i ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet.
Roedd hi’n Sul y Tadau ddydd Sul. Byddai miloedd o blant ledled Cymru wedi cael eu hatal rhag gweld eu tadau. A allech chi roi datganiad gan y Llywodraeth ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i alluogi’r ddau riant i gael gweld eu plant, gan y dylai rhywbeth wir fod yn cael ei wneud?
Gwn fod Mark Isherwood wedi siarad yn rymus iawn yr wythnos diwethaf am swyddogaeth tadau. Roedd hynny cyn Sul y Tadau, ac rydych chi’n codi pwynt pwysig, wrth gwrs, Neil McEvoy, ond mae hyn yn rhywbeth sydd yn amlwg iawn o fewn fframwaith ein system gyfiawnder, yn ogystal â pholisïau rhianta cadarnhaol.
A gaf i groesawu'r newid busnes i roi sylw i fater sydd heb ei ddatrys sef cadeiryddiaeth CCERA? Rydym ni wedi gwneud yn dda iawn, ac rwy’n canmol yr Aelodau sydd wedi cylchdroi drwy'r gadeiryddiaeth, ar ôl colli'r Cadeirydd am gyfnod byr, ond fel y mae unrhyw un yn gwybod pan fyddwch chi heb Gadeirydd am gyfnod hir, mae angen i chi orffwys eich coesau yn y pen draw. Bydd yn dda cael rhywun yn y prif safle yno.
Felly, fel un o grŵp bach ond wedi ei ffurfio’n berffaith o Aelodau Cynulliad Plaid Lafur a Chydweithredol Cymru, a bellach, yn amlwg, mae’r nifer fwyaf erioed o Aelodau Plaid Lafur a Chydweithredol y DU yn Senedd y DU wedi ymuno â ni, rydym ni’n awyddus i ddathlu Pythefnos y Mentrau Cydweithredol, sy'n arddangos y mudiad sy’n tyfu o fentrau cydweithredol ledled y DU ac, yn wir, ledled y byd. Felly, pa ffordd well i nodi hynny nag i ofyn am ddadl yma yn y Senedd, lle gallwn dynnu sylw at swyddogaeth economi gydweithredol y DU? Dadl a fyddai'n ein galluogi i drafod dewis amgen gwirioneddol sydd i’w ganfod yn yr economi gydweithredol, sydd bellach werth £35.7 biliwn yn y DU, gyda thros 226,000 o weithwyr mewn dros 6,000 o fentrau cydweithredol, yn cynnwys tai, trafnidiaeth, ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, gofal iechyd, gofal cymdeithasol, ynni adnewyddadwy a manwerthu, o fentrau cymunedol i fusnesau gwerth miliynau o bunnoedd. Byddai'n gyfle da i glywed bod ffordd wahanol, amgen a llwyddiannus o gyflawni busnes, lle mae’r cwsmeriaid a'r gweithiwr yn cael eu gwerthfawrogi, nid dim ond y fantolen a'r cyfranddalwyr.
Mae Huw Irranca-Davies yn tynnu sylw at y canlyniad da iawn o’r etholiad cyffredinol, sydd wedi golygu bod gennym ni fwy o Aelodau Seneddol Llafur a Chydweithredol Cymru, yn ymuno, wrth gwrs, ag Aelodau Plaid Lafur a Chydweithredol Cymru yma. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, nad yw'n cael ei rannu gan Lafur Cymru yn unig; gwn fod ysbryd cryf yn y Cynulliad hwn, nid yn unig o ran y Blaid Lafur, ond gyda chydweithwyr ym Mhlaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig, er nad wyf yn siŵr am y blaid yna draw yn y fan yna. Ond rwy'n credu bod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud yn bwysig iawn. Byddai’r cyfraniad o ran yr economi a’r cyfle i drafod hynny, rwy’n meddwl, i’w groesawu’n fawr, ac rwy’n gobeithio y byddai hynny’n cael ei groesawu ar draws bob rhan o’r Siambr hon. Felly, rwy’n meddwl y dylem ni gyflwyno dadl yn unol â hynny felly.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng ngoleuni'r sylwadau gan y Prif Weinidog sy’n ymddangos o fod yn nodi eu bod wedi ailgyflwyno’r targed PISA ar gyfer 2021, ar ôl ei honiad yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Iau diwethaf? Rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol bwysig bod pawb sydd â diddordeb mewn addysg yn gwybod pwy sy'n rhedeg addysg yma yng Nghymru. Ai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sy’n gyfrifol, ynteu’r Prif Weinidog yn diystyru Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan bennu nodau ac amcanion ar gyfer yr adran ac, yn wir, y system addysg yma yng Nghymru? Oherwydd rydym ni i gyd eisiau gweld gwelliant yn ein system addysg, ac rydym ni i gyd eisiau gweld cysondeb yn y gwelliant hwnnw, ond roedd yr hyn a welsom y prynhawn yma yn ddiffyg cysylltiad llwyr rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a phennaeth y Llywodraeth, y Prif Weinidog. Felly, a gawn ni ddatganiad i egluro yn union pwy sy'n rhedeg y system addysg yma yng Nghymru?
Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y sefyllfa’n gwbl eglur y prynhawn yma ac, a dweud y gwir, cawsoch dri chyfle i ofyn y cwestiwn ac ymatebodd, unwaith eto, i gadarnhau ei safbwynt. Sicrhau 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Ac, wrth gwrs, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i ddweud mai un dangosydd diagnostig yn unig yw’r targed ymhlith llawer o rai eraill, fel perfformiad TGAU a chau'r bwlch cyrhaeddiad, categoreiddio ysgolion ac arolygiadau Estyn. Ond fe wnaeth y Prif Weinidog y sefyllfa yn hollol eglur.
Diolch i arweinydd y tŷ.