Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Mae pawb, wrth gwrs, wedi dychryn o achos y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain yr wythnos diwethaf. Ar ran Llywodraeth Cymru ac, rwy'n siŵr, bawb yn y Cynulliad, hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â’r rhai a gafodd eu heffeithio ganddo.
Mae pawb yn awyddus i ddeall yr hyn a ddigwyddodd a sut i'w atal rhag digwydd eto. Mae hyn yr un mor wir yng Nghymru ag unrhyw le arall, ac rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi ac yn gweithredu arnyn nhw. Byddwn yn mynd i’r afael â hyn yn drylwyr ac yn gynhwysfawr. Fodd bynnag, mae rhai o'r gwersi hynny eisoes yn weddol glir. Adeiladwyd adeiladau fel Tŵr Grenfell fel bod modd cadw tân mewn un fflat unigol ac felly ei ddiffodd cyn iddo ymledu. Mae hyn yn nodwedd ddiogelwch hanfodol ar gyfer trigolion sy’n byw mewn adeiladau uchel. Methiant trychinebus hyn yn Nhŵr Grenfell oedd i gyfrif am y canlyniad trychinebus. Er bod yn rhaid i ni aros am ganfyddiadau'r ymchwiliad tân, mae'n ymddangos mai achos uniongyrchol y methiant hwnnw o bosib oedd y cladin hylosg a ddefnyddiwyd y tu allan i'r adeilad. Unwaith i’r tân ledaenu i'r cladin, nid oedd llawer y gallai brigâd dân Llundain ei wneud i’w reoli.
Rydym ni felly wedi cwblhau rownd gyntaf o drafodaethau brys gyda phob landlord cymdeithasol preswyl yng Nghymru. Rhyngddyn nhw, maen nhw’n berchen ar 36 bloc o fflatiau saith llawr neu uwch. Mae landlordiaid cymdeithasol wedi dweud wrthym ni nad yw’n ymddangos bod unrhyw un ohonynt yn cynnwys y math o gladin a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell. Mae systemau chwistrellu wedi eu hôl-osod mewn saith bloc yng Nghymru ac, wrth gwrs, pan gaiff unrhyw flociau preswyl aml-lawr uchel newydd neu rai wedi’u haddasu eu datblygu yma, o dan y newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o'r Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, byddai angen iddyn nhw gynnwys systemau chwistrellu. Cafodd y gofynion eu cyflwyno ar gyfer fflatiau a thai ar 1 Ionawr 2016.
Bydd gosod systemau chwistrellu mewn tai newydd ac yn rhan o raglenni adnewyddu, fel y gwnaed eisoes gan rai cynghorau a chymdeithasau tai yng Nghymru, yn gwneud llawer i leihau’r risg o farwolaeth ac anafiadau o ganlyniad i dân. Rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd uniongyrchol i drigolion yr adeiladau hynny. Nid hynny, fodd bynnag, yw diwedd y mater, ac yn sicr nid oes rheswm i fod yn hunanfodlon. Nid un achos yn unig sydd i dân neu unrhyw drychineb arall ar y raddfa hon. Mae’n debyg y bu cadwyn gyfan o fethiannau a arweiniodd at ddigwyddiadau yr wythnos diwethaf. Gall y rhain fod wedi cynnwys sut cafodd yr adeilad ei ddylunio a’i adnewyddu, achos uniongyrchol y tân, sut y rhoddwyd gwybod am y tân a hygyrchedd y safle i ddiffoddwyr tân.
Mae angen dadansoddi a deall hynny i gyd os ydym ym mynd i atal trychinebau tebyg yn y dyfodol, boed hynny mewn tyrrau uchel o fflatiau cymdeithasol neu yn wir mewn adeiladau eraill. Rydym felly yn sefydlu grŵp arbenigol, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector tai cymdeithasol a’r sector tân dan gadeiryddiaeth fy mhrif gynghorydd tân ac achub. Bydd yn archwilio pob un o'r gwersi sy’n deillio o drychineb Tŵr Grenfell ac yn eu cymhwyso i Gymru. Bydd hefyd yn ystyried pa mor barod yr ydym ni i fynd i’r afael â digwyddiad o'r fath os yw'n digwydd. Rydym wedi dangos yn glir fod gennym ni’r gallu i weithredu cynlluniau wrth gefn, yn fwyaf diweddar yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Ond byddai ymateb i drychineb ar raddfa Tŵr Grenfell yn fater hollol wahanol. Felly, unwaith eto, mae angen i ni wneud yn siŵr y gallwn wneud hynny, a bod gwersi’n cael eu dysgu o'r digwyddiadau yn Llundain.
Ar yr un pryd, rwyf i a’m swyddogion yn trafod yn rheolaidd â swyddogion cyfatebol yn Lloegr a'r Alban i sicrhau ein bod yn cyfuno gwybodaeth ac yn rhannu’r hyn yr ydym ni’n ei ddysgu. Nid yw’r broses hon ond megis dechrau, a bydd yn cymryd peth amser cyn y daw’r gwir llawn am yr hyn a ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell yn hysbys. Fodd bynnag, mae fy nghydweithwyr a minnau yn gwbl ymrwymedig i weithredu ar y canfyddiadau, gan wneud popeth y gallwn ni yn y cyfamser i gadw pobl Cymru yn ddiogel rhag tân. Llywydd, byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad wrth i'r gwaith fynd rhagddo.