Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 20 Mehefin 2017.
Llywydd, a gaf i ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet i estyn ein cydymdeimlad dwysaf â phawb sydd wedi colli anwyliaid ac i ddweud bod y dioddefwyr yn ein meddyliau a'n gweddïau ar hyn o bryd? Roedd tân Tŵr Grenfell yn wirioneddol ofnadwy ac mae'n rhaid iddo arwain at adolygiad cynhwysfawr o reoliadau diogelwch tân. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud datganiad mor brydlon? Rwy'n gwbl grediniol mai dyna oedd y ffordd briodol o symud ymlaen. Hoffwn i godi ambell beth sydd angen craffu arnyn nhw yn fy nhyb i, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n siŵr, yn gwneud hynny naill ai y prynhawn yma neu yn sgil yr amrywiol ymholiadau sydd bellach ar y gweill.
Deallaf gan Gartrefi Cymunedol Cymru fod systemau chwistrellu wedi eu gosod yn hanner blociau tŵr eu haelodau a adeiladwyd yn y 1960au. Mae hyn yn golygu, felly, nad oes system o’r fath yn yr hanner arall. Ond rwy’n sylwi, o'r wybodaeth a gefais i o Gaerdydd, fod systemau chwistrellu weithiau mewn llithrennau sbwriel ac nid mewn mannau eraill. Felly, rwy’n credu bod angen edrych ar hyn. Efallai bod chwistrellwyr mewn adeiladau, ond mae angen i ni fod yn sicr eu bod nhw hefyd ble mae angen iddyn nhw fod yn yr adeiladau hynny.
A gaf i gyfeirio at gladin ac inswleiddio? Mae angen sicrwydd arnom y bydd unrhyw gladin yn gallu gwrthsefyll tân. Rydym yn amlwg yn ceisio symud tuag at ddefnyddio cladin ar gyfer cynifer o adeiladau ag y bo modd i gwrdd â gofynion ynni newydd. Ond rwy'n siŵr bod llawer o bobl wedi synnu mai nam yn y deunydd cladin neu sut roedd y cladin wedi’i osod oedd yr achos o bwys yn y drasiedi hon. Rwy'n siŵr y bydd hynny yn sioc ac yn syndod i lawer o bobl. Felly, rwy’n credu bod angen cynnal archwiliad ar unwaith o’r deunyddiau hyn a sut maen nhw wedi eu gosod.
Gwn ein bod wedi cael gwybod gan gyngor Caerdydd a Chartrefi Cymunedol Cymru ac ati bod deunyddiau inswleiddio o ansawdd uchel wedi cael eu defnyddio yn gyffredinol, megis Rockwool. Ond eto i gyd, mae’r mater o’u gosod nhw ac mae angen i ni wybod nad yw deunyddiau annigonol yn bresennol rhywle yn ein stoc tai.
A gaf i droi at gynllunio? Roeddwn yn falch o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i edrych ar y modd y mae awdurdodau lleol yn datblygu a chynllunio. Mae'n amlwg bod angen i’w cynlluniau brys fod yn gadarn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dilyn y newyddion a chlywed y feirniadaeth am ddiffygion yr ymateb cychwynnol. Mae rhai o'r methiannau, rwy’n credu, wedi digwydd oherwydd na chynlluniwyd yn llawn ar gyfer trychineb ar y fath raddfa. Gallwn ni ddeall, mae'n debyg, mewn rhai ffyrdd, nad yw pobl yn awyddus i wneud y paratoadau hyn, ond, wrth gwrs, mae’n rhan o ddyletswydd yr awdurdodau dinesig i fod yn barod am bosibiliadau ofnadwy fel hyn. Ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn cynnwys preswylwyr a gwirfoddolwyr yn y ffordd y mae'r gymuned a'r awdurdodau yn ymateb.
Trof yn awr yn fyr at reoli adeiladu. Unwaith eto, rwy’n gobeithio y bydd y grŵp arbenigol sydd wedi ei sefydlu—ac rwy’n croesawu hyn, gan fy mod yn credu, unwaith eto, ei fod yn beth priodol i'w wneud—yn gallu edrych ar reolaethau a safonau adeiladu. Mae'r rhain yn safonau gofynnol ac mae angen eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd. Mae'n bwysig iawn gwybod, o ran y deunyddiau a sut y cânt eu gosod, sut mae rheoliadau adeiladu yn gweithredu'n effeithiol. Mae rheoliadau adeiladu yn system sy'n seiliedig ar gydymffurfiaeth ac nid ar arolygu—pwynt y cyfeiriwyd ato'n gynharach. Rwy'n credu, unwaith eto, bod angen sicrwydd arnom ni fod hyn yn ddigonol. Mae rhoi’r cyfrifoldeb ar y rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith neu'r adeilad am y tro cyntaf yn creu gwendid yn y system os nad oes, o leiaf drwy ddewis a dethol, beth gobaith o arolygiad fel y gallwn fod yn sicr y caiff cydymffurfio ei weld fel system sy'n gallu gweithio’n gyffredinol.
Rwy’n croesawu'r datganiad pellach y mae am ei wneud, ac a gaf i eich annog i roi’r datganiad ar lafar? Diolch.