Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 20 Mehefin 2017.
Wrth gwrs, ac rwy’n diolch i'r Aelod am ei chwestiynau adeiladol. O ran y cwestiynau manwl ar y rheoliadau adeiladu yn benodol, dyna faes Lesley Griffiths. Beth wna’ i yw gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi, ond rhoi copi o'r ymatebion hynny yn y llyfrgell ar gyfer Aelodau hefyd.
O ran tân a chymhwyso tân, roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell yn drasig. Ni wyddom ni eto sut y dechreuodd y tân yno, ond yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod tanau yng Nghymru wedi gostwng dros 50 y cant ers datganoli'r gwasanaeth tân. Felly, mae tanau’n digwydd yn llai aml yma, er gwaethaf y digwyddiadau trasig yno. Mae angen i ni ddysgu gwersi o hynny, a pha un ai a oedd hynny oherwydd offer neu rywbeth arall, mae’n rhaid i ni barhau i aros i weld beth yn union achosodd y tân a beth barodd i'r tân ledu mor sydyn yn strwythur yr adeilad.
Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod preswylwyr yn cael lleisio barn ar ansawdd eu stoc dai a'u perthynas â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol, a byddaf yn sicrhau bod hyn yn parhau. Rwy'n credu bod gennym ni, unwaith eto, berthynas wahanol iawn—beth sy’n digwydd yng Nghymru a beth sy'n digwydd yn Lloegr.
O ran y gyfundrefn archwilio y gofynnais i fy mhrif swyddog tân a’r tîm i edrych arni, mae hwn yn waith penodol iawn ar y blociau fflatiau saith llawr neu uwch. Ar hyn o bryd, mae 31 o ohonyn nhw, felly bydd modd cwblhau’r gwaith yn gyflym iawn. Siaradais â'r Gweinidog tai yn San Steffan brynhawn dydd Sadwrn, ac fe siaradais i â Gweinidog yr Alban bore ddoe, ac rydym ni’n cydweithio ar ddarn o waith ynglŷn â sut y gallwn ni rannu’r wybodaeth hon. Nid wyf yn credu ei bod yn gwneud unrhyw synnwyr i ni wneud tri darn o waith ar wahân. Mae’r gwaith rydw i wedi cychwyn arno yn ymwneud â'n stoc arbennig ni. Bydd felly yn cyfrannu at yr egwyddor gyffredinol o'r hyn yr ydym yn cydweithio i’w gyflawni, ond byddaf yn hysbysu’r Aelodau o’r hyn sy’n digwydd.