Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 20 Mehefin 2017.
Hoffwn i hefyd estyn fy nghydymdeimlad â’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr amgylchiadau trasig. Hoffwn i hefyd ganmol y gwirfoddolwyr o Gymru a oedd yn y cyfryngau heddiw ac sydd wedi mynd i helpu’r rheini yn Grenfell, a hoffwn i annog hynny. Pan allwn weld bod trasiedi ddynol mewn gwlad arall, yna fe ddylem ni geisio helpu eraill. Dyna fy marn i. Ond mae hefyd yn neges i bawb ohonom fod angen i ni fod yn rhagweithiol yn y materion hyn, ac na ddylem ni fod yn adweithiol gyda materion fel diogelwch. Mae'n bwysig ein bod ar flaen yr agenda wleidyddol yn hyn o beth.
Mae llawer o fy sylwadau neu gwestiynau mewn cysylltiad â'ch ymgynghoriad ar y ddogfen 'Diweddariad ynglŷn â Rheoliadau Adeiladu – Dogfennau Cymeradwy A, B ac C' ers y llynedd. Mae Rhan B yn ymwneud â diogelwch tân yn benodol. Yn yr ymgynghoriad hwnnw, nodwyd bod yr ymgynghoriad arfaethedig yn cynnig, ac rwy’n dyfynnu, yr un newidiadau a wnaed gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr. Nododd yr asesiad effaith yn Lloegr fanteision sylweddol. Un o’r rhain oedd llai o gostau i ddatblygu ac i weithgynhyrchwyr, ynghyd ag effeithlonrwydd ynni ac arbedion carbon. Nawr, a allwch chi ddweud wrthyf i eich bod yn hollol fodlon nad yw'r arbedion hyn yn cyfaddawdu diogelwch yn Lloegr ac na fydden nhw’n peryglu diogelwch yma yng Nghymru? Rydym ni’n gwybod, weithiau, bod y costau yn ymddangos yn bwysicach na phethau eraill, ac, yn yr achos hwn, fel y gwyddom ni o'r achlysur hwn, ni ddylai ddod o flaen diogelwch.
Mae'r adrannau sy'n ymwneud â goleuadau yn nodi bod peth problemau, gan fod rhai mathau o oleuadau yn fwy tebygol o achosi tân, ac eto yn fwy effeithlon o ran ynni, ac rwy’n dyfynnu:
'Mae hyn yn creu gwrthdaro cynyddol rhwng y darpariaethau ar gyfer diogelwch tân a’r rhai ar gyfer effeithlonrwydd ynni.'
A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r rheoliadau ac unrhyw gynlluniau yn ymwneud â gosod goleuadau diogelwch yn benodol? Yn yr ymgynghoriad penodol hwn, hefyd, ymatebodd y Llywodraeth gan ddweud ei bod yn aros am ganlyniadau o brosiect y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch rheoleiddio mwg a nwyon gwenwynig cyn gwneud unrhyw ddiwygiadau ynglŷn â rheoleiddio hyn. A yw eich safbwynt wedi newid bellach ar y mater penodol hwnnw?
Fel y soniwyd yn gynharach, mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran darparu system chwistrellu i ryw raddau, ac fe wn i fod Ann Jones yn haeddu clod am hynny. Rydym ni’n gwybod, fel y mae David Melding wedi dweud, bod awdurdodau tai yn gosod systemau chwistrellu mewn sawl ardal, ac mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi ein diweddaru. Ond mae hyn yn dal heb ddigwydd mewn llawer lle ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Felly, oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gryfhau rheoliadau ynghylch gosod chwistrellwyr, ac a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau ynghylch sicrhau mwy o arian er mwyn gwneud hynny mewn adeiladau hŷn?
Fe wnaethoch chi ddod i’r pwyllgor cymunedau fis Medi diwethaf ac fe holon ni chi yno, ac fe ofynnais i chi’n benodol am reoliadau diogelwch o ran tanau oherwydd peiriannau neu ddyfeisiau, oherwydd bu cynnydd mewn tanau o’r fath. Nodwyd hefyd y bu Electrical Safety First yn eich lobïo ers peth amser ynghylch hyn. Fe wnaethoch chi awgrymu i'r pwyllgor nad oeddech chi’n gweld bod angen deddfwriaeth oherwydd bod rhai agweddau wedi'u cynnwys yn flaenorol fel rhan o'r Mesur Tai ehangach. Fel rhagbaratoad—ac fel y soniais ar ddechrau’r datganiad hwn —i geisio bod yn rhagweithiol, a fyddwch chi nawr yn ymrwymo i edrych ar sut o bosib mae angen newid diogelwch trydanol a'r peryglon sy'n gysylltiedig â thanau yn ymwneud â pheiriannau neu ddyfeisiau, neu a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud o ran gwell rheoleiddio?
Nodaf y bydd ymchwiliad yn Llundain, wrth gwrs, a byddai gennyf ddiddordeb gwybod, pan sefydlir rhychwant yr ymchwiliad hwnnw, sut y byddwch chi’n cyfrannu at yr ymchwiliad o safbwynt Cymru. Nodaf hefyd fod yr Alban wedi sefydlu ei adolygiad ei hun. Pam y gwnaethoch chi ddewis grŵp arbenigol yn hytrach na chynnal adolygiad cynhwysfawr yng Nghymru. Deallaf y byddant yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd wahanol, ond allwch chi fy sicrhau i ynghylch pam nad ydych chi wedi penderfynu gwneud adolygiad yn ei hawl ei hun ac o ran ei hun, a sut y bydd y grŵp arbenigol hwn yn ystyried y materion mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn? Oherwydd, yn bersonol, wn i ddim beth sydd wedi digwydd i lawer o'r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad ar y diweddariad ynghylch rheoliadau adeiladu, ac nid wyf yn meddwl y gallwn ni nawr orffwys ar ein rhwyfau. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hyn yn dod yn flaenoriaeth wleidyddol, efallai mewn amgylchiadau trasig, ie, ond fe all hynny atal unrhyw beth fel hyn rhag digwydd byth eto, a gwneud yn siŵr yn ogystal, bod tenantiaid yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad teg. Oherwydd rwy’n credu, o wylio'r newyddion, mai dyna oedd un o’r pryderon ymddangosiadol mwyaf—roedd tenantiaid wedi codi pryderon. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni fodd i alluogi tenantiaid i deimlo y gallan nhw wneud y cwynion hynny heb deimlo y byddan nhw’n cael eu collfarnu mewn unrhyw ffordd. Maen nhw ond yn codi’r pryderon hynny er eu diogelwch eu hunain ac er diogelwch eu cymdogion.