Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'r sgyrsiau gawsom ni, hefyd, ynghylch hyn. O ran profi larymau a systemau chwistrellu bob chwe mis, mae'n rhaid i ni fod ychydig yn ofalus nad ydym ni’n gwneud i’r system brofi fynd yn hollol wallgof. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain yn drasig, ac mae'n rhaid i ni ddysgu am y digwyddiadau a arweiniodd at y broses honno. Mae'n amlwg bod rhai methiannau sylfaenol ynghylch sut y gwariwyd peth o’r arian yno, boed hynny yn gysylltiedig â’r cladin neu â’r materion gweithredol yn yr adeilad ei hun. Fy ngwaith i, a gwaith Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol, yw rhoi hyder i bobl sy'n byw mewn blociau tŵr neu mewn adeiladau eraill yng Nghymru eu bod mor ddiogel ag y gallan nhw fod gyda’r systemau rydym ni’n eu gweithredu, ac rwy’n credu bod y rheol profi chwe mis yn briodol lle mae pethau yn eu lle i sicrhau bod diogelwch yn parhau.
O ran y tyrau llai, y rheswm pam rydym ni wedi dewis y seithfed llawr ac uwch yw oherwydd na all llwyfannau awyr yr awdurdodau tân gyrraedd unrhyw beth y tu hwnt i hynny, tra bod yr holl adeiladau y crybwyllodd yr Aelod yn hygyrch i’r gwasanaeth tân, a gobeithiaf y bydd hynny’n rhoi hyder i'ch trigolion ac etholwyr. O ran y lagin a ddefnyddiwyd gennym ni a materion yn ymwneud â Safon Ansawdd Tai Cymru, does a wnelo hyn ddim yn unig â materion amgylcheddol; mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod mewnolion ac allanolion cragen yr adeilad yn cael eu huwchraddio. Felly, does a wnelo hyn ddim yn unig â chadwraeth ynni, ond mewn gwirionedd mae'n ateb gwell i bobl o ran byw yn y tai hynny, ac nid ydym yn ymwybodol fod y math o ddeunydd a gâi ei ddefnyddio yn Llundain yn cael ei ddefnyddio unrhyw le yn y prosesau hynny yng Nghymru. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn ni roi hyder i’ch etholwyr chi a holl etholwyr Cymru fod yr amodau sydd gennym ni, â'r rheoliadau sydd yn eu lle, yn amgylchedd diogel iddyn nhw fyw ynddo.